Mae Partneriaeth Ogwen a Siop Ogwen yn chwilio am 2 berson ifanc rhwng 18 a 24 mlwydd oed i weithio efo ni fel rhan o gynllun Kickstart am gyfnod o 6 mis. Swyddi datblygu cymunedol ydyn nhw yn cynorthwyo efo prosiect siop ‘pop yp’ Cadwyn Ogwen a datblygu Siop Ogwen.
Cynllun a ariennir trwy Lywodraeth San Steffan yw Kickstart a mae’n rhaid i chi fod rhwng 18-24 oed ac ar gredyd cynhwysol i fod yn gymwys. I ymgeisio, mae’n rhaid i chi gysylltu efo’ch mentor gwaith yn y Ganolfan Waith.
Bydd y 2 berson ifanc yn cael cefnogaeth hyfforddiant gan bartneriaid yn cynnwys Cwmni Bro Ffestiniog, Dolan, Cyngor Gwynedd a Choleg Llandrillo Menai. Yn bwysicach, byddant yn cael profiad ymarferol o waith datblygu cymunedol yn Nyffryn Ogwen efo tîm da o staff i’w cefnogi.