Croeso nôl Bwystfilod Bach Bethesda

Sesiynau yn cael eu cynnal ar foreau Sul yn y Clwb

Carwyn
gan Carwyn
1rygbi
rygbi3

Yn dilyn llacio rheoliadau Covid-19, mae’r sesiynau poblogaidd ar gyfer plant o dair i bump oed wedi ail-gychwyn yng Nghlwb Rygbi Bethesda.

Mae’r sesiynau hwyliog sy’n cael eu cynnal o 10.30am hyd 11.30am yn gyfle gwych i’r plant ddysgu sgiliau newydd yng nghwmni criw o ffrindiau.

Os oes gan eich plentyn chi ddiddordeb ymuno gyda Bwystfilod Bach Bethesda, cysylltwch gyda Hannah ar 07816316236. Yna byddwch yn cael eich ychwanegu i’r grŵp Whats App lle bydd yr holl ddiweddariadau yn ymddangos.