Croesawu Pobl a Peillwyr

Datblygiad Gerddi Ogwen

gan Huw Davies

Gwyrddo Gerddi Cymunedol y Dyffryn Gyda’r gwanwyn ar droed mae’r Dyffryn Gwyrdd wedi partneriaethu gydag Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri a Chynghorau Cymuned Bethesda i wella’r amgylchedd lleol ar gyfer pobl a pheillwyr. Mae’r gwaith a ddechreuodd yn Llys Dafydd ac a fydd hefyd yn cynnwys Gardd Tan Twr (y gofod gyferbyn a’r ddeintyddfa ar waelod Stryd Fawr Bethesda) yn ymgais i ddatblygu’r gerddi fel mannau cyhoeddus fydd ar gael i drigolion ar gyfer ymweld ac ymlacio, ac a fydd hefyd yn denu bywyd gwyllt a pheillwyr blodau. Meddai Huw Davies, Rheolwr y Dyffryn Gwyrdd “ Mae’r Dyffryn Gwyrdd yn brosiect a ddechreuodd y llynedd gyda chefnogaeth y Loteri Genedlaethol wedi agor y drws i greu partneriaethau newydd gyda chyrff megis y Parc Cenedlaethol ac ‘rydym yn hynod o falch o fedru denu adnoddau ychwanegol i wella amgylchedd y dyffryn. Mae’r gwaith sy’n cael ei wneud gan Blodeuwedd Botanics yn tacluso a gwella’r gerddi cymunedol a maes o law, pan fydd y cyfyngiadau’n llacio, gobeithiwn greu cyfleoedd i wirfoddolwyr ymuno a ni yn y gwaith”. Ychwanegodd Donna Watts, Clerc Cyngor Cymuned Bethesda “ Gyda dathliadau dau canmlwyddiant Bethesda ar y gweill rydym wrth ein bodd cael chwistrelliad o fywyd a lliw i’r pentref a hynny ochr yn ochr a’r gwaith a wnaed yn ddiweddar i dacluso a glanhau’r Stryd Fawr.”