Criw o Fethesda yn dringo Ben Nevis

Dringo er mwyn codi arian i elusen Awyr Las

gan Rhys Pritchard
CF0FAC7F-1C53-4816-9EAE

Ar ddydd Gwener 25ain o Fehefin, aeth criw o 23 o Fethesda i fyny i Ogledd yr Alban i ddringo Ben Nevis ar gyrrion Fort William. Fel can Max Boyce, ‘they went up by train and by car’, gyda’r daith i fyny i’r Alban yn cymryd bron i 8 awr.

Er fod nifer yn ddringwyr profiadol, dyma’r tro cyntaf i rai ddringo mynydd uchaf Prydain, sydd 1345m uwchlaw’r môr. Dringwyd y mynydd yn llwyddiannus mewn oddeutu 5 awr.

Codwyd dros £7,000 tuag at Awyr Las gan y criw, elusen sy’n cefnogi’r NHS yw Awyr Las, gan godi arian i wella cyfleusterau, offer a gwasanaethau i’r rhai sydd ei angen (https://awyrlas.org.uk).

Hoffai’r criw ddiolch i bawb sydd wedi cyfrannu.