Cogydd yn anelu am y brig

Bydd Hywel Griffith sy’n wreiddiol o’r ardal yn ymddangos ar gyfres ddiweddaraf rhaglen deledu boblogaidd

Carwyn
gan Carwyn
HywelG

Bydd y cogydd llwyddiannus o Fethesda, Hywel Griffith yn ymddangos ar raglen y ‘Great British Menu’ ar BBC2 o ddydd Mercher, 12 Ebrill. Bydd yn cystadlu yn erbyn cogyddion amlwg eraill o Gymru yn y gobaith o gyrraedd y rownd derfynol gyda’r goreuon o’r Deyrnas Gyfunol.

Mae Hywel sy’n rhedeg y bwyty llwyddiannus, y ‘Beach House’ ym Mhenrhyn Gŵyr, yn dechrau arfer ymddangos ar y sgrîn fach. Bu’n arddangos rhai o’i hoff brydau ar raglen y Sioe Fwyd ar S4C dros y gaeaf lle’r oedd yn gweini prydau i rai o  wynebau cyfarwydd Cymru.

Bu’r bachgen o Ddyffryn Ogwen a’i fryd ar fod yn gogydd ers iddo fod yn ei arddegau, gan hyfforddi yng Ngholeg Menai ym Mangor. Yna, bu’n gweithio mewn amryw o geginau amlwg yn lleol a thu hwnt cyn ymgartrefu yn ardal Penrhyn Gŵyr. Mae wedi cael llwyddiant rhyfeddol yno gan sicrhau seren Michelin i’r bwyty.

Pob lwc i Hywel yn y gyfres ddiweddaraf o’r Great British Menu – rydan ni’n sicr y bydd yn gwneud ei farc dros Gymru a Dyffryn Ogwen!