Clod i Gwydion yn Eisteddfod yr Urdd

Mae’r myfyriwr o Rachub wedi ennill y drydedd wobr yng nghystadleuaeth y Prif Gyfansoddwr

Carwyn
gan Carwyn

Llongyfarchiadau mawr i Gwydion Powel Rhys ar ddod yn drydedd ym mhrif gystadleuaeth y cyfansoddwyr Eisteddfod yr Urdd 2020-21.

Mae Gwydion sy’n wreiddiol o Rachub ym mlwyddyn gyntaf ei gwrs yn astudio cyfansoddi yng Ngholeg Cerdd Frenhinol Llundain ar hyn o bryd.

Wrth gwrs, mae 18 mis ers i’r holl gystadleuwyr gyflwyno eu gwaith, a dim ond rŵan mae’r enillwyr yn cael clywed am eu llwyddiant oherwydd yr oedi yn sgil Covid.

Enillydd Medal Gyfansoddi Eisteddfod yr Urdd 2020-21 oedd Ioan Wynne Rees o Gyffylliog, Rhuthun, gyda chyfansoddiad arall ganddo yn ail yn y gystadleuaeth.