Clirio hen wastraff yn Nhregarth

Trigolion lleol yn mynd i’r afael a thipio slei bach

gan Huw Davies
2021_0610-Sbwriel-Lon-Dinas-3

Y llwyth enfawr a gasglwyd mewn awran!

2021_06_10-Sbwriel-Lon-Dinas-1

Y safle cyn dechrau

2021_06_10-Sbwriel-Lon-Dinas-2

Y safle ar ei newydd wedd

Ar ddiwrnod trymaidd o haf bu criw Balchder Bro a Dyffryn Gwyrdd wrthi’n chwysu a chwerthin wrth glirio sbwriel a oedd wedi’i dipio’n anghyfreithlon ar Lon Dinas, Tregarth.

Dros 30 sach o wastraff

Roedd Neville Hughes wedi gweld y llanast yn ddiweddar ac wedi cysylltu efo Harri Pickering, Cydlynydd Gwirfoddoli’r Dyffryn Gwyrdd i drefnu sesiwn glirio sbwriel.

Cafwyd dros deg sach ar hugain o wastraff, hen garpedi a chypyrddau cegin o’r safle ac fe’i casglwyd yn syth bin gan swyddogion Cyngor Gwynedd.

Dywedodd Huw Davies, Rheolwr Dyffryn Gwyrdd: “Rydym yn falch iawn o’r cyfle’i weithio gyda gwirfoddolwyr brwd y dyffryn ar wella’n amgylchedd ac yn ddiolchgar iawn i Gyngor Gwynedd am eu cymorth parod yn ein cynorthwyo ar sawl achlysur i glirio tipio slei bach.”

Os hoffech awgrymu rhywle sydd angen ei glirio yn y dyffryn, cysylltwch â Paul Rowlinson o Falchder Bro ar 01248 605365. Neu i gael mwy o wybodaeth am sesiynau casglu sbwriel cysylltwch â Harri o dîm Dyffryn Gwyrdd harri@ogwen.org.

Trosedd ddifrifol Mae tipio slei bach yn drosedd ddifrifol. Gall achosi niwed sylweddol i’r amgylchedd, yr economi ac ardaloedd lleol – gyda’r canlyniadau o hyd at £50,000 o ddirwy neu 12 mis o garchar i’r troseddwr.

I adrodd ar unrhyw achos o dipio slei bach yng Ngwynedd, ewch i: www.gwynedd.llyw.cymru a chliciwch ar ‘Adrodd Problem’ ar y dudalen gartref. Neu fe allwch gysylltu gyda thîm gorfodaeth stryd y Cyngor yn uniongyrchol drwy e-bostio gorfodaethstryd@gwynedd.llyw.cymru neu ffonio 01766 771000.