Cefnogaeth Aelod o’r Senedd i ddynes leol sy’n dioddef o endometriosis

“Mae’r diffyg gwasanaethau arbenigol yng ngogledd Cymru yn sgandal”

Gohebydd Golwg360
gan Ohebydd Golwg360

Siân Gwenllian, yr Aelod o’r Senedd dros Arfon

Mae Siân Gwenllian wedi cefnogi galwad dynes leol am fwy o gymorth i rai sy’n byw ag endometriosis.

Dywed Aelod Plaid Cymru o’r Senedd dros Arfon fod y gefnogaeth sydd ar gael i ddioddefwyr yng ngogledd Cymru yn “annigonol”.

Ar hyn o bryd, mae’n rhaid i’r rheiny sy’n dioddef o’r cyflwr, yn cynnwys Kate Laska o Riwlas, fynd dros y ffin i Loegr i dderbyn gofal a thriniaethau.

Mae endometriosis yn gyflwr hirdymor sy’n effeithio ar y system atgenhedlu fenywaidd.

Diffyg gwasanaethau yn “sgandal”

Mae Siân Gwenllian yn awyddus i godi ymwybyddiaeth o’r cyflwr a gweld gwasanaethau yn gwella yng ngogledd Cymru.

“Mae’r gefnogaeth sydd ar gael yn gyffredinol annigonol,” meddai.

“Ond mae’r diffyg gwasanaethau arbenigol yng ngogledd Cymru yn sgandal, gyda’r mwyafrif o gleifion yn gorfod teithio dros y ffin, i Ysbyty Merched Lerpwl er enghraifft.

“Mae’r trafferthion sy’n codi oherwydd hyn yn niferus; oedi mewn triniaeth, pellter teithio, a diffyg gwasanaethau drwy gyfrwng y Gymraeg, dim ond i enwi rhai.

“Mae’r ergyd ariannol hefyd, wrth gwrs. Yn aml iawn, mae’r rhai sy’n dioddef yn cael trafferth wrth geisio hawlio budd-daliadau lles, ac mae nifer o’r rhai sy’n gweithio yn wynebu problemau gyda’u cyflogwyr os ydyn nhw i ffwrdd o’r gwaith oherwydd eu salwch.”

‘Trio dod o hyd i help’

Mae Kate Laska o bentref Rhiwlas ger Bethesda yn byw ag endometriosis, ac mae hi’n gwella ar ôl cael llawdriniaeth yn Ysbyty Merched Lerpwl.

Mae hi wedi siarad yn agored am ei brwydr â’r cyflwr.

“Dychmygwch fyw mewn poen corfforol am flynyddoedd,” meddai.

“Rydych chi’n trio dod o hyd i help ond maen nhw’n dweud wrthoch chi fod y boen rydych chi’n ei deimlo yn ‘normal’.

“Yn y cyfamser, rydych chi’n colli’ch swydd, eich incwm a’ch partner… ar ôl newid meddyg saith mlynedd yn ôl, o’r diwedd, cefais ddiagnosis.”

‘Dioddef yn ddistaw’

“Doedd gen i ddim syniad bryd hynny y byddwn yn treulio’r saith mlynedd nesaf yn cwffio dros fy hawl i driniaeth,” meddai Kate Laska wedyn.

“Oherwydd gofal a oedd yn llai na digonol, a diffyg ymwybyddiaeth ymhlith gweithwyr iechyd, a chymdeithas yn gyffredinol, datblygodd fy endometriosis i’w bedwerydd cam. Roedd rhaid imi gael nifer o driniaethau cymhleth.

“Mae’n anodd dod o hyd i gefnogaeth pan mae ei hangen arnoch fwyaf, oherwydd mae cymdeithas yn credu ei fod yn anochel bod merched yn profi poen.

“Mae merched sy’n dioddef ag endometriosis yn dioddef yn ddistaw, ac yn aml iawn maen nhw’n teimlo fel petaent ar eu pennau eu hunain, oherwydd mae’n amhosibl i unrhyw un ddychmygu eu poen.

“Dim ond un clinig arbenigol sydd yng Nghymru, yng Nghaerdydd, lle mae gobaith i ferched fel fi. Fodd bynnag, mae’r clinig hwn wedi’i lethu â chleifion ar hyn o bryd.

“Mae’r pwysau amser yn hanfodol gyda’r cyflwr cronig yma. Mae iechyd merched yn cyfrif. Dyma pam mae angen dybryd am wasanaeth lleol yng ngogledd Cymru.”