Capten y Siarcod

Huw Davies yn gapten tîm rygbi Sale

Carwyn
gan Carwyn
FGz09oYXEAsN3H_

Mae’r gŵr ifanc lleol Huw Davies wedi ei ddewis yn gapten ar dîm Academi Clwb Rygbi ‘Siarcod’ Sale.

Mae’r wythwr yn rhan o raglen academi’r tîm o ardal Manceinion ac mae ei lwyddiant ar y cae hefyd wedi dwyn sylw cenedlaethol.

Mae Huw hefyd wedi bod yn hyfforddi gyda charfan dan 20 Cymru yn ddiweddar. Gobeithio y byddwn yn ei weld yng nghrys coch Cymru yn fuan ac y gall criw o Ddyffryn Ogwen fynd draw i gefnogi.

Hei lwc yn y gêm yn erbyn academi tîm Caerwrangon y penwythnos yma!

1 sylw

Arwyn Oliver
Arwyn Oliver

Llongyfarchiadau iti Huw.Rwyn siwr bod pawb yn yr ardal yn falch iawn o dy lwyddiant.Pob Hwyl iti gyda dy yrfa.

Mae’r sylwadau wedi cau.