Ydych chi wedi gweld Frankie?

Beic y gŵr ifanc wedi ei ganfod ym Mhentir

Carwyn
gan Carwyn
184773376_1551688248369630

Mae Heddlu Gogledd Cymru yn adrodd fod tad y gŵr ifanc Frantisek (Frankie) sydd ar goll ers 2 Mai yn apelio am unrhyw wybodaeth er mwyn ei ddychwelyd adref yn ddiogel.

Daw hyn wedi i feic y gŵr ifanc 18 oed gael ei ganfod ger tafarn y ‘Vaynol’ ym Mhentir ddoe (dydd Sul).

Yn eu neges ar gyfrif Facebook, mae’r heddlu yn adrodd fod tad Frankie yn gobeithio fod ei fab yn ddiogel, ac yn erfyn iddo ddychwelyd adref.

Mae Frankie wedi bod ar goll ers ddydd Sul, 2 Mai. Daw o Landegfan ac fe’i welwyd diwethaf yn ardaloedd Llanberis/Waunfawr.

Mewn neges heddiw, dywedodd yr heddlu: “Rydym yn apelio o hyd ar unrhyw un sydd â gwybodaeth neu ffilm CCC / camera cerbyd o ran lle mae Frantisek “Frankie” Morris, 18, i gysylltu â ni.

“Fe welwyd ef ddiwethaf ger y VAYNOL ARMS, PENTIR am 1.22yh ar ddydd Sul 2 Mai.”

Os ydych chi’n ei weld neu ag unrhyw wybodaeth, mae Heddlu Gogledd Cymru yn galw arnoch i roi gwybod iddynt gan ddyfynnu cyfeirnod ‘38935’. Gallwch adrodd ar rif ffôn 101 neu ar eu gwefan yma.