Canfod corff fel rhan o ymchwiliad i ddiflaniad Frankie Morris

Heddlu Gogledd Cymru wedi cael hyd i gorff mewn coedwig ger Caerhun

Carwyn
gan Carwyn
Frankie

Mewn datganiad heno (3 Mehefin), mae swyddogion yr heddlu wedi cadarnhau bod corff wedi’i ddarganfod fel rhan o’r ymchwiliad i ddiflaniad y gŵr ifanc, František “Frankie” Morris.

Mae’r llanc deunaw oed o Landegfan ar Ynys Môn wedi bod ar goll ers 2 Mai ac mae apeliadau cyson wedi bod am wybodaeth yn ystod y mis diwethaf.

Yn fwyaf diweddar, cafwyd cais am wybodaeth gan ei fam, Alice Morris lle’r oedd yn poeni yn enbyd am Frankie.

Fel rhan o’r ymchwiliad yr heddlu, mae corff wedi ei ddarganfod mewn coetir trwchus ger Caerhun brynhawn Iau, 3 Mehefin.

Roedd Frankie wedi ei weld diwethaf y tu allan i dafarn y Faenol ym Mhentir.

Mae’r Crwner wedi cael gwybod am y canfyddiad. Nid yw’r corff wedi ei adnabod yn swyddogol, a bydd post-mortem yn cael ei gynnal yfory.

Mae teulu Frankie wedi cael gwybod ac maent yn cael eu cefnogi gan swyddogion arbenigol y llu.

Dywedodd y Ditectif Brif Arolygydd Lee Boycott: “Mae ein cydymdeimlad dwysaf yn mynd at deulu a ffrindiau Frankie ar yr adeg anodd hon.”