Calendr Llais Ogwan 2022 ar werth

Rhywbeth ar gyfer yr hosan Nadolig – lluniau hardd o Ddyffryn Ogwen i’w gweld yn y calendr

Llun_calendr-Llais-Ogwan-2022

Mae’n braf gallu adrodd fod calendr poblogaidd Llais Ogwan ar gael i’w brynu o’r siopau.

Fel yr arfer, mae rhifyn 2022 yn cynnwys lluniau amrywiol difyr o leoliadau ar draws Dyffryn Ogwen – gydag aelodau’r Clwb Camera wedi bod yn brysur yn dewis a dethol.

Yn y siopau

Mae Calendr 2022 bellach ar gael i’w brynu fel yr eglura Gareth Llwyd, Ysgrifennydd Llais Ogwan.

“Mae’n bleser gennym gyhoeddi bod Calendr Llais Ogwan 2022 wedi ei gyhoeddi ac ar gael i’w brynu yn y siopau a gan eich gwerthwyr lleol,” meddai.

“Mae’r Calendr yn cynnwys lluniau lliw hardd o ardal Dyffryn Ogwen gan gyfranwyr lleol unwaith eto eleni.

“Hoffem ddiolch eto eleni am gymorth gan Glwb Camera Dyffryn Ogwen i ddenu a dewis y lluniau ar gyfer y Calendr a diolchwn hefyd i Richard Alwyn Jones a Gwasg Ffrancon am eu gwaith wrth gysodi ac argraffu’r Calendr.

“Bydd y Calendr yn cael ei werthu trwy’r siopau yn bennaf, ond, os oes rhywun yn fodlon gwerthu cyflenwad, mae croeso iddynt gysylltu gyda Mr Walter Williams gan mai ef sy’n gyfrifol am ddosbarthu a gwerthu’r Calendr.

“Gallwch gysylltu gyda Walter ar 01248 601167 neu trwy e-bost: waltermenai@yahoo.co.uk”

Siopau

Bydd y Calendr ar werth am £4 eto eleni yn y siopau canlynol:

  • Siop Ogwen, Bethesda, a thrwy archeb gyda Cadwyn Ogwen
  • Marchnad Ogwen
  • Londis, Bethesda
  • Barbwr Ogwen, Bethesda
  • Caffi Seren, Bethesda
  • Post Rachub
  • Llys Y Gwynt (Siop SPAR)
  • Siop Palas Print, Caernarfon
  • Awen Menai, Porthaethwy