Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr y cyntaf yng Nghymru i frechu dros 100,000 o bobl

… ac ar y trywydd iawn i gyrraedd eu targedau

Gohebydd Golwg360
gan Ohebydd Golwg360

Mae Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr wedi cyhoeddi eu bod wedi brechu dros 100,000 o bobl.

Dyma’r Bwrdd Iechyd cyntaf yng Nghymru i gyrraedd y garreg filltir bwysig hon.

Erbyn hyn, mae’r mwyafrif o breswylwyr gofal wedi cael eu brechu ac mae’r Bwrdd Iechyd yn hyderus eu bod am gyrraedd y targedau a amlinellir gan Lywodraeth Cymru.

“Tystiolaeth o waith caled”

Cyhoeddodd Gill Harris, Dirprwy Brif Weithredwr Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr y newyddion, drwy ddatgan:

“Ddydd Llun 1 Chwefror, fe wnaethom gyrraedd carreg filltir bwysig. Ni yw’r Bwrdd Iechyd cyntaf yng Nghymru i frechu dros 100,000 o bobl.

“Mae hyn yn gyflawniad arwyddocaol ac yn dystiolaeth o waith caled y gwasanaethau iechyd lleol.”

Dros y pythefnos nesaf, mae’r Bwrdd Iechyd yn disgwyl cyflenwad o 100,000 o frechlyn ychwanegol – 39,100 brechlyn Pfizer a 59,000 brechlyn AstraZeneca.

Y cynnydd hyd yn hyn

  • Ar 31 Ionawr, roedd 96,370 unigolyn yng Ngogledd Cymru wedi derbyn eu brechlyn Covid-19 cyntaf.
  • Rhwng 25 a 31 Ionawr, cofnodwyd bod 35,300 unigolyn ar draws Gogledd Cymru wedi derbyn eu brechlyn cyntaf.
  • Mae 91% o Grwpiau Blaenoriaeth 1 a 2 wedi derbyn eu dos brechlyn cyntaf o’i gymharu â 63% yr adeg hon yr wythnos ddiwethaf.

Er eu bod yn cydnabod bod rhai pobl yn dewis peidio â chael y brechlyn, ac mae rhai eisoes wedi gwneud hynny, eu nod yw sicrhau fod pawb o’r grwpiau blaenoriaeth cymwys yn cael cynnig.

Mae mwyafrif y ddau grŵp blaenoriaeth gyntaf wedi eu brechu bellach ac maent yn gwahodd unigolion dros 75 mlwydd oed, dros 70 mlwydd oed, a’r rhai sy’n agored iawn i niwed clinigol am eu brechiad.