“Mae lot o bobl yn dibynnu ar fynd i’r gym… ’da ni gyd angen hynny fwy nag erioed”

Blaenoriaethu ailagor campfeydd a chanolfannau hamdden wedi’r cyfnod clo?

Gohebydd Golwg360
gan Ohebydd Golwg360

Mae disgwyl i gampfeydd, canolfannau hamdden a phyllau nofio gael eu blaenoriaethu a bod ymhlith y cyfleusterau cymunedol cyntaf i ail-agor, wedi’r cyfnod clo.

Daw hynny, wedi i’r Gweinidog Iechyd, Eluned Morgan ddatgan yng nghynhadledd Llywodraeth Cymru i’r wasg yr wythnos ddiwethaf eu bod wedi bod yn “gyndyn iawn” i’w cau ac yn awyddus i’w hagor cyn gynted a bod modd.

Er hynny, roeddent ymhlith yr olaf i ailagor yn dilyn y clo mawr y llynedd.

Ym marn Lisa Francis o Fethesda, byddai cau gampfeydd am gyfnod hirach nag sydd rhaid yn cael effaith niweidiol ar ei hiechyd corfforol a’i lles meddyliol.

“Mae lot o bobl yn dibynnu ar fynd i’r gym”

“Mae’n insane sut mae work out da yn gallu gwneud i chdi deimlo,” meddai Lisa, sy’n aelod o R Health Fit ym Mangor.

“Mae o wedi helpu fi gymaint o ran y ffordd dwi’n meddwl amdanaf i fy hun… a hefyd ti’n gwneud ffrindiau.

“Mae gen i lwyth o ffrindiau dwi’n mynd i gym hefo ac mae hynny’n really anodd o ran iechyd meddwl.

“Dwi’m yn teimlo bod fi’n cael yr hapusrwydd adra a fyswn i yn y gym – mae o’n gwneud lles i unrhyw un.”

 “Oedd pawb yn dilyn y rheolau”

“Dwi’n teimlo dros y pubs a’r rhai sydd ddim yn cael agor,” meddai, “ond mewn gym – ti’n sobor – ti yna am fod chdi isio cadw’n ffit ac mae pawb am ddilyn y rheolau.

“Pawb yn cadw 2m, digon o wipes rownd y lle, digon o stwff i llnau offer – oedd o’n gweithio.

“Oedd pawb yn dilyn y rheolau – oedd pawb isio bod yn ôl yn y gym felly doedd na neb yn cymryd y chances o micsio... a oedd o yn gweithio.

“Felly i fi yn bersonol – ar ôl ysgolion – dylai gyms fod at the top of the list i ailagor.”

Mae modd darllen mwy o ymatebion fan hyn.