Yn gynharach heddiw (Llun, 3 Mai) roedd Heddlu Gogledd Cymru yn rhybuddio byddai yr A5 o Fethesda i gyfeiriad Bangor ar gau am gyfnod oherwydd coeden sy’n rhwystro’r gefnffordd.
Wrth adrodd am y digwyddiad ar y cyfryngau cymdeithasol, dywedwyd:
“Mae’r A5 ger ‘Halfway Bridge’ tuag at Bethesda ar gau ar hyn o bryd oherwydd coeden sydd wedi disgyn. Mae traffig yn cael ei dargyfeirio drwy Tregarth. Mae’r ffordd ar gau ym Methesda ger croesffordd Bryn Bella ac ar ochr ‘Halfway Bridge’ ger y gyffordd hefo Tregarth. Mae’r ffordd yn debygol o fod ar gau am dipyn oherwydd maint y goeden. Diolch am eich amynedd.”
Roedd Traffig Cymru hefyd yn dweud fod angen osgoi y ffordd am y tro.
Ond diolch i waith clirio gan yr awdurdodau, roedd y ffordd wedi ail-agor cyn bump ar bnawn Llun.