Barn y SRG am EP “Yr Ifanc Sy’n Gwneud Dim Byd”

Dyma farn rhai o bobl o fewn y sîn yma yng Nghymru ar gasgliad newydd y cerddor lleol, Dafydd Hedd

Dafydd Herbert-Pritchard
gan Dafydd Herbert-Pritchard

Sut mae pobl eraill wedi ymateb i’r EP? Cafodd sawl artist ardderchog, mawr a bach yn y Sîn Roc Gymraeg (SRG) gyfle i wrando ar y casgliad ers wythnosau.

Dyma rhai o ymatebion:

Elis Derby (artist) – ‘Rili impressed, swnio tha Oasis ar adegau a datblygiad mawr ers y stwff cynt! Dim Gwahaniaeth yn tîwn.

I Fight Lions (band) – Chi gyd wedi creu EP gret fama. Plenty o variaton, motifs gwahanol a thema diddorol. Caneuon yn catchy a lyrics yn gret! Job anhygoel

Sarah Wynne (MônFM) – Ma fi a Gwion yn lyfio hi!

Omaloma (grŵp) – Wedi gwrando! Wedi mwynhau ?

Bwca (band) – Dwi’n hoffi’r naws seicadelig a ffynci! Tipyn o amrywiaeth rhwng y traciau i weld hefyd!

Llew Glyn (aelod o’r band Gwilym) – Di rili joio’r EP – y cynhyrchu yncŵll arno a chyfansoddi yn top notch! Paent Ar Y Garreg yn ffefryn!

Iwan Pitts (Podpeth + Hansh) – Tiwns gan jiniys ifanc o Pesda. Pob can yn bangar!

Jacob Elwy (Records Bryn, Y Trwbz) – Gyd yn class!

Tom Owen (Artist) – Jyst wow! Masterpiece! Paent Ar Y Garreg yn amazing!

Sion Land (Band Alffa) – Class EP all the way ‘round! Licio Sbardun

Morgan Jones (Band MEL) – Class! Sbardun givin me purple haze vibes gan Jimmy Hendrix, mics da o blues, grunge a chill! 100% downloadio hi pan fyddi allan ar Spotify!

DJ Dilys – Wedi rili mwynhau! Paent Ar Y Garreg a Colli Ar Fy Hun oedd hoff rai fi.

Mr. (Artist) – Wedi mwynhau! Llais yn swnio’n rili dda arno. Wir yn hoffi’r ail gan Pan Mae Fory’n Dod.

Mae sawl person o fewn y sîn wedi gwirioneddol mwynhau’r casgliad, felly fyddwch chi?

Gallwch cael gafael ar gopi drwy yrru neges at Dafydd Hedd:   Facebook, Instagram, Twitter – @dafyddhedd   Ebost – dafyddhedd@outlook.com

Bydd yr EP allan ar Spotify ar y 4ydd o Fehefin!