Awydd rhoi cynnig ar griced?

Sesiynau blasu yn cael eu cynnal 

Carwyn
gan Carwyn

Wrth i gyfyngiadau Covid-19 lacio, mae gweithgareddau yn prysur ail-ddechrau yng Nghlwb Criced a Bowlio Bethesda.

Mae sesiynau blasu ar gael i blant oed cynradd trwy raglen Criced ‘Dynamos’. Mae’r sesiynau pêl-feddal am 6pm ar nos Fawrth, 27 Ebrill a 4 Mai gyda’r rhaglen lawn yn cychwyn go-iawn o 11 Mai. Mae mwy o wybodaeth a manylion cofrestru ar gael yma.

Bydd y clwb unwaith eto yn rhedeg ystod lawn o dimau criced ar gyfer tymor 2021. Mae amseroedd ymarfer pob tîm i’w weld ar y lluniau. Mae digon o gyfleodd i ymwneud â’r clwb, un ai ar y cae neu oddi ar y cae, gyda’r clwb pob tro’n croesawu chwaraewyr a gwirfoddolwyr newydd.

Bydd dau dîm dydd Sadwrn, tîm canol wythnos / cyfeillgar, tîm merched, timau ieuenctid dan 15, dan 13 a dan 11 yn ogystal â’r ymarferion pêl feddal i’r plant llai.

Am fwy o wybodaeth neu i fynegi diddordeb cwblhewch yr holiadur yma neu e-bostiwch cricedbethesdacricket@outlook.com.