Yr Athro Deri Tomos – Y Flwyddyn Aeth Heibio

Y gwyddonydd a’r athro o Brifysgol Bangor wedi ymddeol yn trafod ei brofiadau 

Carwyn
gan Carwyn

Yn byw yn Llanllechid ers degawdau, mae Deri yn wyneb a llais cyfarwydd i lawer wrth drafod amrywiol agweddau o’i waith fel gwyddonydd.

Bellach wedi ymddeol o’i rôl lle bu’n Athro yn Ysgol Gwyddorau Naturiol Prifysgol Bangor, mae’r 12-mis diwethaf wedi rhoi rhywfaint o amser i Deri geisio gwneud y mwyaf o’r amser. Er, hyd yn oed yn y cyfnod yma, mae amser yn gallu mynd yn drech i rywun sydd â chymaint o ddiddordebau.

Am yr hanes yn llawn, gwyliwch y clip diweddaraf yn y gyfres, a diolch yn fawr i Deri am rannu ei brofiadau.

Cofiwch, os oes unrhyw un arall yn awyddus i gyfrannu, mae croeso i chi gysylltu gyda chriw Ogwen360 trwy anfon neges ar y cyfrifon cymdeithasol Twitter, Facebook ac Instagram.