Albwm newydd gan Gruff Rhys

Mae cân oddi ar y record hir ‘Seeking New Gods’ ar gael i’w mwynhau heddiw

Carwyn
gan Carwyn

Mae prif-ganwr y Super Furry Animals wedi cyhoeddi y bydd ei albwm nesaf yn cael ei rhyddhau ym mis Mai. Mae sengl gyntaf y record, ‘Loan Your Loneliness’ ar gael i’w mwynhau ers heddiw yma.

Bydd yr albwm diweddaraf, ‘Seeking New Gods’ yn cael ei rhyddhau ar label Rough Trade Record ar 21 Mai. Mae’n dilyn albwm ‘Pang!’ a ryddhawyd gan Gruff yn 2019.

Mynydd Paektu

Wrth gyhoeddi’r newyddion ar ei dudalen Facebook, dywedodd Gruff: “Recordiwyd yr albwm yn dilyn taith yn yr UDA dro yn ôl gyda’r grwp Babelsberg- Kliph, Osian a Steve, ynghyd â lleisiau ychwanegol gan Lisa a Mirian a cymysgwyd gan Mario C a gymysgodd ‘Candylion’ a ‘Hotel Shampoo’ hefyd.

“Dechreuodd fel cofiant mynydd yn nwyrain Asia – Mynydd Paektu, ond yn y pen draw daeth yn fwy-fwy bersonol.

“Mae o’n ymwneud â’r cof ac amser. Mae’n dal i fod yn gofiant i fynydd, ond bellach nid mynydd cyffredin mohono – ond Mynydd Paektu y meddwl!”

Celf yr albwm

Mae’r celf ar gyfer y record wedi ei ddatblygu gan Mark James. Mae yna fersiynau amrywiol o’r record wedi eu llunio, yn cynnwys clawr mewn arddull amlen gyfyngedig, band wedi’i rifo, feinyl slepjan 2 liw, Disc Fflecsi a phrint wedi’i lofnodi 10.

Mae gan yr LP safonol hefyd glawr ar ffurf amlen, band boliog, a feinyl gwyrdd tywyll.

Mae modd rhag archebu yr albwm rŵan ar wefan Gruff yma a gellir ffrydio’r sengl gyntaf o’r llefydd arferol.