Achosion o ladrad yn ardal Mynydd

Yr heddlu yn apelio am wybodaeth

Carwyn
gan Carwyn

Mae’r heddlu yn apelio am gymorth wedi tri lladrad diweddar o gerbydau modur yn ardal Mynydd Llandygai a Sling.  

Dywed yr heddlu fod yr achosion i gyd yn agos at ei gilydd a chredir eu bod wedi digwydd dros nos rhwng nos Lun, 11 Ionawr a bore Mawrth, 12 Ionawr. 

Yn eu neges ar gyfrif Facebook, mae’r heddlu lleol yn dweud: “Rydym yn credu bod y troseddwr o bosib yn chwilio am arian parod.”

Os oes gennych unrhyw wybodaeth a all gynorthwyo’r ymchwiliad, cysylltwch â’r heddlu drwy ffonio 101 neu Sgwrs We Fyw http://ow.ly/pI3Y50D7qRf gan ddyfynnu cyfeirnod: 21000024051.