£200,000 tuag at adnewyddu Canolfan Cefnfaes

Prif Weinidog Cymru yn ymweld â gwaith Partneriaeth Ogwen ac yn diolch am eu gwaith yn ystod y pandemig

Carwyn
gan Carwyn
Canolfan Cefnfaes

Mark Drakeford yn clywed am y cynlluniau ar gyfer Canolfan Cefnfaes y llynedd

Y Prif Weinidog yn cael cyfle i weld danteithion Cadwyn Ogwen
Prif Weinidog Mark Drakeford yn cael gweld y datblygiadau yng ngardd Tan Twr

Mae Prif Weinidog Cymru, Mark Drakeford wedi cadarnhau y bydd Partneriaeth Ogwen yn derbyn £200,000 i helpu i drawsnewid adeilad Cefnfaes ym Methesda.

Daeth hyn yn ystod ymweliad â’r ardal yr wythnos yma. Daw’r cyllid o raglen Cyfleusterau Cymunedol y llywodraeth i gynorthwyo gyda’r gwaith o drawsnewid adeilad Cefnfaes yn ganolfan arloesi a chynaliadwyedd er budd y gymuned.

“Enghraifft wych”

Yn ystod ei ymweliad â Bethesda, clywodd y Prif Weinidog am y gwaith y mae Partneriaeth Ogwen wedi bod yn ei wneud yn ystod y pandemig, gan gynnwys dosbarthu bwyd a chefnogi busnesau bach lleol.

Aeth draw i siop Cadwyn Ogwen a chyfarfod rhai o’r staff gweithgar sydd wedi bod wrthi yn brysur trwy gydol y cyfnod Covid yn gweithio er lles cymuned Dyffryn Ogwen.

“Mae wedi bod yn bleser ymweld â Phartneriaeth Ogwen,” meddai Mark Drakeford.

“Mae’r bartneriaeth yn enghraifft wych o’r hyn y gall cymuned ei gyflawni pan fyddan nhw’n cyd-dynnu.  Rwy’n falch ein bod hefyd wedi gallu cefnogi’r bartneriaeth drwy ein Rhaglen Cyfleusterau Cymunedol.  Rwy’n edrych ymlaen at weld sut y mae’r cynlluniau ar gyfer yr hen ysgol yn datblygu.

“Hoffwn i ddiolch iddyn nhw a’u holl wirfoddolwyr am y gefnogaeth y maen nhw wedi bod yn ei rhoi yn ystod y pandemig i’r aelodau hynny o’r gymuned sy’n agored i niwed.”

Prosiectau adfywio cymunedol

Fel rhan o’r cynlluniau ar gyfer Cefnfaes, y bwriad ydi cael ystafell hyfforddi a sgiliau, a naw uned ar gael i fusnesau bach eu rhentu. Bydd hefyd yn dod yn gartref i gaffi trwsio, cegin gymunedol a thŷ bynciau.

Dywedodd Meleri Davies, Prif Swyddog Partneriaeth Ogwen: “Roedd yn bleser dangos rhai o’n prosiectau adfywio cymunedol i’r Prif Weinidog a’i gyflwyno i’n tîm o staff a phartneriaid sy’n gweithio’n galed.

“Mae’n wych cael y gefnogaeth a’r gydnabyddiaeth sydd eu hangen ar y gymuned a’r sector mentrau cymdeithasol. Ac rydyn ni’n ddiolchgar i Mark Drakeford am roi o’i amser ac am ddangos diddordeb yn ein gwaith.”