Dim cinio ysgol arferol i ddisgyblion a dim gwaith marcio i athrawon – y “normal newydd” yn ysgolion Gwynedd

Mae Cyngor Gwynedd wedi amlinellu ei gynlluniau er mwyn ailagor ysgolion ddiwedd y mis.

Gohebydd Golwg360
gan Ohebydd Golwg360
Gwefan Ysgol Dyffryn Ogwen

Dim cinio ysgol arferol i ddisgyblion, glanhau ysgolion yn drylwyr bob nos, a dim gwaith marcio i athrawon – dim ond rhai o’r cynlluniau y mae Cyngor Gwynedd wedi’u hamlinellu er mwyn ailagor ysgolion ddiwedd y mis.

Bydd ysgolion yn ailagor ar Fehefin 29 ar gyfer tymor o bedair wythnos.

Dywed y Gweinidog Addysg, Kirsty Williams, y byddai hyn yn rhoi amser i ddisgyblion, staff a rhieni i baratoi ar gyfer “normal newydd” pan fydd y flwyddyn academaidd nesaf yn dechrau ym mis Medi.

“Pryder ac ansicrwydd”

Mewn llythyr at rieni a gofalwyr dywedodd Garem Jackson, Pennaeth Addysg Cyngor Gwynedd y bydd gan bob ysgol fesurau gwahanol ar waith gan gynnwys cynllun ailagor ac asesiad risg ei hun.

“Mae’n annhebygol y bydd ysgolion yn dychwelyd i’r ffordd y cawsant eu gweithredu cyn y cloi am gryn amser”, meddai.

“Mae staff ein hysgolion wedi bod yn wych yn y ffordd maen nhw wedi dal ati i ddarparu cyfleoedd dysgu. Mae’n amlwg o brofiad diweddar nad yw dysgu’n gwybod unrhyw ffiniau ac na fydd yn cael ei gloi i lawr.

“Bydd pob ysgol unigol yn gwneud penderfyniadau ar sut y byddant yn agor a pha grwpiau oedran fydd yn cael eu blaenoriaethu.

“Rydym yn ymwybodol y bydd pryder ac ansicrwydd. Bydd ysgolion yn cysylltu â rhieni a gofalwyr dros y dyddiau nesaf i’w hysbysu o’u cynlluniau ailagor.

Pa fesurau fydd ar waith yn ysgolion Gwynedd?

  • Plant bregus a phlant gweithwyr allweddol

Bydd y ddarpariaeth i blant bregus a phlant gweithwyr allweddol yn parhau rhwng 8yb a 5yh.

Os yw nifer plant gweithwyr allweddol yn fwy na nifer y plant y gellir eu cynnwys yn ddiogel, yna bydd yr ysgol yn cynnig gofal i bob plentyn ond am lai o ddiwrnodau.

Nid oes unrhyw drefniadau pendant yn eu lle eto yngylch sut fydd ysgolion yng Ngwynedd yn darparu gofal i blant bregus a phlant gweithwyr allweddol dros yr haf.

  • Ystafell ynysu

Bydd ystafell ynysu ym mhob ysgol ar gyfer disgyblion neu aelodau staff sydd yn teimlo’n sâl.

  • Rheol 2 fetr

Bydd pob ysgol yn dilyn rheolau ymbellháu cymdeithasol, a bydd rhaid i ysgolion gyfrifo beth yw uchafswm y disgyblion y bydd modd eu cael i mewn i bob ystafell ddosbarth.

  • Traean

Nifer uchaf posibl y plant y gall ysgol ei derbyn ar unrhyw ddiwrnod yw traean capasiti’r ysgol.

Nid yw’r awdurdod lleol yn disgwyl i ysgolion gynnig darpariaeth ar gyfer plant oed meithrin, na disgyblion blwyddyn 11 ac 13.

  • Dim cosb am beidio â mynychu

Ni chaiff rhieni a gofalwyr eu dirwyo na’u cosbi am beidio ag anfon eu plant i’r ysgol.

Er hyn ni ni all plentyn ddod i’r ysgol yn ystod y cyfnod yma heb gytundeb yr ysgol o flaen llaw.

  • Dim cinio ysgol arferol

Ni fydd prydau bwyd ysgol yn cael eu darparu mewn unrhyw ysgol. Bydd gofyn i bob plentyn ddod â phecyn bwyd a photel ddŵr ei hun.

Dylid paratoi pecyn bwyd lle nad oes angen i aelod o staff gynorthwyo’r plant i’w agor nac ychwaith helpu i agor ei gynnwys.

Bydd plant sy’n gymwys i dderbyn cinio am ddim yn parhau i gael taliad uniongyrchol a bydd disgwyl iddynt ddod â phecyn bwyd i’r ysgol yr un fath â phob plentyn arall.

  • Amser egwyl

Efallai na fydd pawb yn cael amser egwyl a chinio ar yr un pryd.

Bydd staff yn goruchwylio bob amser egwyl a chinio. Bydd disgwyl i blant ymbellháu’n gymdeithasol.

Bydd hylif diheintio dwylo ar gael ym mhob mynedfa i wneud yn siŵr bod disgyblion yn gallu golchi eu dwylo wrth iddynt adael adeilad yr ysgol a mynd yn ôl i mewn.

  • Glanhau

Bydd ystafelloedd dosbarth ac ardaloedd cyffredin yn cael eu sychu’n lân yn rheolaidd, a bydd ysgolion yn cael eu glanhau’n drylwyr bob nos.

Bydd yr iard chwarae hefyd yn cael ei glanhau cyn i grwpiau gwahanol ei ddefnyddio.

  • Toiledau

Bydd y toiledau’n cael eu glanhau wedi amser egwyl a chinio ac ar ddiwedd pob dydd. Dylai un disgybl ar y tro ddefnyddio’r toiledau, a bydd sebon hylif ar gael i ddisgyblion a staff.

  • Cymorth cyntaf

Pe bai angen i blentyn dderbyn cymorth cyntaf yn ystod y dydd, bydd modd i athrawon ddefnyddio offer diogelwch er mwyn dilyn y drefn arferol.

  • Gwisg ysgol

Caiff y disgyblion eu hannog i wisgo dillad ac esgidiau priodol sy’n hawdd eu glanhau. Gall hyn fod yn wisg ysgol, ond fe fydd hyn yn amrywio o ysgol i ysgol.

  • Dim rhannu offer

Bydd angen i bob plentyn fynd â châs pensiliau eu hunain i’r ysgol a ni fyddant yn cael rhannu eu hadnoddau gyda phlant eraill na’r staff.

  • Marcio gwaith

Mae’r awdurdod lleol yn cynghori staff i beidio â marcio llyfrau’r disgyblion yn ystod y cyfnod yma.

  • Arwyddion

Bydd arwyddion clir o amgylch yr ysgol yn pwysleisio pwysigrwydd golchi dwylo, hylendid a chadw pellter cymdeithasol.

Cludiant ysgol

Disgwylir i rieni gludo eu plant i’r ysgol ond os nad yw hyn yn bosibl, bydd disgyblion sy’n gymwys i gael cludiant ysgol yn parhau i gael y gwasanaeth hwnnw.

Eglurodd Garem Jackson, Pennaeth Addysg Cyngor Gwynedd: “Oherwydd y rheoliadau a osodwyd gan Lywodraeth Cymru ar ymbellhau cymdeithasol, bydd ein darpariaeth gludiant cartref i ysgol yn gyfyngedig iawn. Anogir pob rhiant i gludo eu plant eu hunain i’r ysgol.”

  • Hebrwng a chasglu plant

Dim ond un rhiant neu ofalwr fydd yn cael hebrwng plentyn i’r ysgol a chasglu plentyn o’r ysgol.

  • Arhosfan Bysiau: 

Bydd disgwyl i ddisgyblion o wahanol aelwydydd aros 2 fetr ar wahân wrth yr arhosfan fysiau.

Ni fydd yr awdurdod lleol na’r darparwyr cludiant yn monitro arhosfannau bysiau.

  • Tra ar y bws ysgol

Bydd cynllun eistedd clir yn ei le er mwyn sicrhau nad yw disgyblion yn mynd heibio’i gilydd.

Bydd disgyblion yn eistedd ddwy fetr ar wahân ar y sedd sydd agosaf at y ffenest a bydd y bws yn llenwi o’r cefn ymlaen.

Bydd y cludiant yn cael ei lanhau cyn casglu’r disgyblion.

Lle bo’n bosib, bydd yr un gyrrwr ar yr un bws yn cael ei ddefnyddio bob dydd.

  • Torri rheolau a gwaharddiadau

Os na fydd disgyblion yn cadw at y rheolau cadw pellter cymdeithasol ar gludiant ysgol, mi fydd rhieni’r plentyn yn derbyn llythyr rhybudd ac os byddant yn parhau i dorri’r rheolau, byddant yn wynebu gwaharddiad o’r cludiant.

Faint o ddisgyblion fydd yn cael teithio ar gludiant ysgol?

  • 12 disgybl ar fws 52/54 sedd
  • 7 disgybl ar fws 32 sedd
  • 6 disgybl ar fws 28 sedd
  • 1 disgybl ar fws 8 sedd

 

Nid yw’n glir eto beth fydd y sefyllfa ym mis Medi.