Ysgolion Gwynedd ddim am agor am wythnos ychwanegol

Byddai ymestyn y tymor hyd at Orffennaf 24 yn mynd yn groes i gytundebau athrawon

Gohebydd Golwg360
gan Ohebydd Golwg360

Mae Cyngor Gwynedd wedi cadarnhau na fydd ysgolion y sir yn agor am wythnos ychwanegol ym mis Gorffennaf.

Yn ôl y Cyngor byddai gwneud hyn yn mynd yn groes i gytundebau athrawon.

Cynllun gwreiddiol Llywodraeth Cymru oedd i ysgolion Cymru ailagor ar Fehefin 29 ac y byddai’r tymor yn cael ei ymestyn am wythnos hyd at Orffennaf 24.

Golygai hyn y bydd ysgolion yng Ngwynedd yn cau eu drysau am wyliau’r haf ar Orffennaf 17.

Pedwaredd wythnos wirfoddol

Mewn datganiad mae Cyngor Gwynedd wedi dweud ei bod y cyngor yn awyddus i roi eglurder i rieni.

“Credwn fod darparu’r eglurder hwn i rieni, disgyblion ac ysgolion rŵan yn rhoi amser i deuluoedd baratoi ar gyfer cyfnod tair wythnos y tymor ysgol.”

“Fel Cyngor, rydym yn ddiolchgar i staff ein hysgolion am eu gwaith caled a’u hymroddiad trwy gydol y cyfnod clo.

“Rydym yn deall nad yw Llywodraeth Cymru a’r undebau llafur wedi gallu cyrraedd safle cyffredin eto ar y bedwaredd wythnos fel ymarfer gwirfoddol er gwaethaf trafodaethau estynedig.

“Nid yw Cyngor Gwynedd yn bwriadu gofyn i staff addysgu a staff ysgolion eraill wirfoddoli am y bedwaredd wythnos ychwanegol hon ac felly bydd ysgolion yn cau am wyliau’r haf ar 17 Gorffennaf fel y byddent wedi’i wneud yn wreiddiol.

Gwrthwynebiad undebau

Mae mwyafrif ysgolion Cymru wedi bod ar gau ers Mawrth 20, ac mae undebau athrawon wedi mynegi eu pryderon am ail agor ysgolion ar Fehefin 29.

Dywedodd UCAC eu bod yn “gresynu’n fawr at y ffaith fod y Llywodraeth wedi anwybyddu barn yr undebau mai blynyddoedd 6, 10 a 12 ddylai fod wedi cael blaenoriaeth petai unrhyw ailagor cyn yr haf”.

Yn ôl Ysgrifennydd Cymru’r NEU, David Evans: “Mae’n ormod, yn rhy fuan”, ac mae arolwg gan Unsain yn dangos bod 72% o staff ysgolion yn credu na ddylai ysgolion ail agor tan fis Medi.