Ysbryd y Nadolig

Diwedd blwyddyn hegar, ond cymuned yn cynorthwyo’i gilydd

gan Huw Davies
2020_12_21-Tegannau-Dolig

Tegannau ar gyfer eun rhannu

2020_12_21-Foodshare-Lerpwl

Llond fan o fwyd ‘Fareshare’

2020_11_12-HD-a-EW-Cyfaill-Cymunedol

Danfoniad cyntaf y Cyfaill Cymunedol

Cafwyd sawl esiampl dros y dyddiau diwethaf o drigolion yn dangos caredigrwydd a chariad tuag at eu cyd-ddynion yma yn Nyffryn Ogwen. Mae ein gwaith fel Partneriaeth Ogwen wedi mynd rhagddo er gwaethaf y pandemig. Dyma rai esiamplau yn unig isod.

 

Cyfaill Cymunedol – Cynhaliwyd y dosbarthiad olaf o brydau maethlon Caffi Coed y Brenin gan griw Partneriaeth Ogwen ar ddydd Iau, Rhagfyr 17eg. Mae’r cynllun yma a gefnogir gan gronfa ICF Cyngor Gwynedd wedi bod yn llwyddiant mawr dros y deufis diwethaf. Nid yn unig ran dosbarthu bwyd blasus Karen a’r criw ond hefyd wrth greu cysylltiad a rhoi rhywfaint o gwmnïaeth i drigolion hyn y dyffryn. Bydd y cynllun hwn yn ail-ddechrau wythnos gyntaf Ionawr a beryg y byddwn yn brysur iawn unwaith eto. Diolch yn fawr i’r Caffi ac i staff ymroddedig y cynllun.

Cronfa Cefnogi Cymunedol – Mae’r prosiect yma wedi tyfu’n sylweddol ers ei sefydlu gan Manon Williams a Dilwyn Llwyd nol ym mis Mawrth. Cawsom gefnogaeth ariannol gan gronfa Ynni Ogwen, y Cynghorau Cymuned ac wedyn cronfa Arian i Bawb ym mis Awst i ymestyn y cynllun ac mae wedi profi’n hynod lwyddiannus. Bellach rydym wedi cefnogi bron i 1,000 o unigolion i ddarparu bwyd iddynt mewn blwyddyn galed iawn ar adegau. Mae sawl unigolyn wedi rhoi rhoddion ariannol yn ogystal â bwyd ac ers sefydlu’r pwynt casglu yn Londis Bethesda mae’r cyfraniadau wedi llifo’i fewn. Mae sawl cwmni arall gan gynnwys Zip World a’r Royal Oak, Rachub wedi’n cefnogi yn ogystal â chasgliad arbennig gan drigolion Mynydd Llandegai ac rydym yn ddiolchgar iawn am yr holl gefnogaeth.

Casgliad Teganau – Mewn ymateb i’r clo diweddaraf treuliodd Vanessa Williams a Lowri Harrington oriau maith yn casglu teganau ar hyd y lled yr ardal. Cafwyd pentwr o gyfraniadau, llawer ohonynt yn newydd sbon ac fe rannwyd rheini ochr yn ochr a’r gwasanaeth bwyd.

 

Diolch o waelod calon i’r holl unigolion, cwmnïau a chymdeithasau am ein cynorthwyo ni fel Partneriaeth i gefnogi cymunedau Dyffryn Ogwen. ’Dolig Llawen!