Ysbryd cymunedol Dyffryn Ogwen

Gwirfoddolwyr yn Nyffryn Ogwen yn cydweithio mewn cyfnod o ansicrwydd.

Gohebydd Golwg360
gan Ohebydd Golwg360

Mewn cymunedau ar draws y wlad mae gwirfoddolwyr wedi dod ynghyd i gynnig cymorth i’r bobol fwyaf bregus yn ein cymdeithasau, ac yn Nyffryn Ogwen mae 3,000 o daflenni bellach wedi eu dosbarthu gyda manylion gwirfoddolwr lleol sydd yn barod i helpu.

Ar bodlediad arbennig gan Bro360 sy’n edrych ar sut mae grwpiau mewn cymunedau yn Arfon a Cheredigion wedi cael eu ffurfio dros yr wythnosau diwethaf mae Meleri Davies o Bartneriaeth Ogwen wedi bod yn egluro sut aeth pobol ati i gefnogi pobol sy’n hunan ynysu yn Nyffryn Ogwen.

Eglurodd Meleri Davies fod gwaith caled y gwirfoddolwyr yn y cyfnod ansicr yma yn destun balchder iddi.

“Ma’ na ysbryd cymunedol cadarn iawn yn Nyffryn Ogwen.”

“Da ni’n dda mewn cyfnod o galedi, ma’ pawb yn dod at ei gilydd.”

Er i Bartneriaeth Ogwen gynnig cymorth wrth gydlynu’r ymgyrch wirfoddol roedd Meleri Davies yn awyddus i bwysleisio mai pobol ar lawr gwlad sydd tu ôl i’r cynlluniau gwirfoddol yn Nyffryn Ogwen.

Cadwyn Ogwen

Mae Cadwyn Ogwen yn blatfform ar lein newydd gan Bartneriaeth Ogwen sy’n cefnogi cynhyrchwyr lleol a’i helpu i ddanfon cynnyrch lleol i gartrefi pobol sydd yn hunan ynysu.

“Da ni’n trio meddwl yn arloesol, bydd pobol yn gallu archebu pysgod, bocsys llysiau, caws ac yn y blaen gan gyflenwyr lleol a fydd staff Partneriaeth Ogwen yn dosbarthu’r bwyd i gartrefi bobol yn Carwen y car trydan cymunedol.”

Gwrandewch ar y podlediad llawn yma:

Cefen gwlad ar waith – podlediad Bwletin Bro

Lowri Jones

Yng nghanol yr helynt, mae newyddion da – cynlluniau cymorth yn codi’n organig mewn ymateb i Covid19