Ymweliad â hydro cymunedol Dyffryn Ogwen

Criw Llais y Gymuned yn manteisio ar dywydd garw

gan Huw Davies

Wedi’r holl law diweddar manteisiodd criw Llais y Gymuned Ysgol Dyffryn Ogwen ar daith heddiw gyda Cyd Ynni dan arweiniad Mr Griff Morris.

Wedi ymweld â’r gored lle mae’r dŵr yn cychwyn y daith ger y bont, dilynodd y criw’r Lon Las a llwybr y beipen lawr i’r cwt tyrbin.

Cafodd y disgyblion y cyfle’i holi Griff am y broses a sut y creir y trydan a chafwyd trafodaeth hefyd am ddefnydd ynni – a pham ei bod mor bwysig i ddiffodd teclynnau a phlygiau er mwyn lleihau gwastraff ynni.

Mae’r cynllun sydd dan berchnogaeth y gymuned yn creu trydan glan, cynaliadwy ac yn croesawu ymholiadau ac ymweliadau – cysylltwch â ni i drefnu!

huw@ogwen.org – 01248602131.