Ymestyn Chwarel y Penrhyn?

Mae disgwyl i’r perchnogion gyflwyno cais cynllunio yn fuan

Carwyn
gan Carwyn

Mae nifer o gartrefi ar draws Bethesda wedi derbyn llythyr gan gwmni ‘Welsh Slate’ yn nodi bwriad gan berchnogion Chwarel y Penrhyn i gyflwyno cais i ymestyn.

Yn y llythyr, maent yn nodi y byddant yn cyflwyno cais yn fuan, gyda’r bwriad o estyniad bychan i’r gogledd orllewin. Mewn cais o’r fath ar safle o bwys fel hwn, byddai disgwyl i’r cwmni gynnal digwyddiad ymgysylltu ar gyfer trigolion y fro, ond esbonia’r llythyr fod hynny ddim yn bosib ar hyn o bryd oherwydd Coronafeirws.

“Oherwydd y pandemig Covid 19 ni allwn gynnal arddangosfa gyhoeddus yn y ffordd arferol i rannu ein cynigion ac i ateb cwestiynau’r gymuned leol, felly rydym wedi cynhyrchu taflen fer sy’n egluro ein cynigion,” meddai’r llythyr gan Welsh Slate.

“Gellir gweld copi llawn o’r cais cynllunio a’r Datganiad Amgylcheddol ar ein gwefan www.welshslate.com o dan yr adran newyddion.

“Os oes gennych unrhyw sylwadau/ cwestiynau os hoffech unrhyw wybodaeth bellach e-bostiwch enquiries@welshslate.com neu ffoniwch Jo Davies ar 07736 275546.”

Mae taflen hefyd wedi ei hanfon at drigolion sy’n esbonio mwy am y cynlluniau arfaethedig mewn manylder.

Dywed fod y cynlluniau yn cynnig ymestyn y safle gweithio a fyddai’n “rhyddhau gwerth tua 4 i 5 mlynedd o lechi o ansawdd da”.

Byddai bwriad hefyd i fwyafrif y gwastraff llechi gael eu lleoli o fewn y gwaith chwarel ddeheuol, “gyda symiau cyfyngedig yn cael eu tipio ar ochr ogledd orllewinol y chwarel”.

Mae manylion pellach am y cynlluniau arfaethedig i’w gweld ar wefan perchnogion Chwarel y Penrhyn yma . Gofynnir i chi anfon unrhyw sylwadau neu gwestiynau ar y cais erbyn 22 Ionawr 2021.