Hwn yn ddarn ardderchog Owain – mae dy ddawn trin geiriau bron cystal a dy ddawn rhuthro lawr elltydd carregog!
Dwi mewn perthynas symbiotig gyda rhedeg, fel aer yn fy ‘sgyfaint, ac fel bwyd yn fy mol. Dwi’n breuddwydio am ddiwrnodau allan ar y mynydd yn carlamu ar draws y topiau.
Dull trafnidiaeth oedd cerdded a rhedeg i weld ffrindiau yn Nyffryn Nantlle. O ni byth yn un am chwaraeon yn ysgol, yn enwedig chwaraeon tîm. Mae rhedeg mynydd yn esblygiad o ddringo a rhedeg. Y ddau yn cyfrannu i symud yn sydyn drostir anwastad a serth, gyda’r hyder i wybod nad ydwyf yn mynd i ddisgyn (anaml iawn!).
O ni’n cerdded yn y mynyddoedd i gychwyn ond yn rhedeg y darnau gwastad a serth (i lawr). Pâr o drainers New Balance. Dim byd arbennig. Methu fforddio esgidiau mynydd. Dros amser ddysgais i redeg y dringfeydd, hanner cerdded a hanner rhedeg. Gwthio’n galetach bob tro.
Dysgais sut i sgramblo a dringo gyda rhaffau. Dwi’n gyffyrddus ar dir serth mewn esgidiau rhedeg mynydd. Treio codi uchder yn sydyn. Y llinell rasio, llinell syth (Tryfan Crib Gogleddol).
Pob siwrne yn wahanol er yn gyfarwydd. Yr amgylchedd yn newid gyda’r tymhorau. Yn galed, oeraidd ac weithiau yn ddychrynllyd yn y gaeaf (Ysgolion Duon – werth eu gweld), y mynyddoedd yn dyblu mewn maint. Y teimlad wrth dringo allan o gysgod y cymoedd serth ar fore Gwanwyn llachar, yr haul yn cynnig eu hegni a pweru’r corff. Blas y llys pan yn sychedig ar ôl darfod y dŵr, chwilota am y rhai tew tywyll yng nghanol yr Haf a llyfu fy mreichiau er mwyn adennill halen sydd yn diferu allan o fy nghroen fel cawod.
Mae yna ddigonedd o lwybrau yn cychwyn ym Methesda, yn plethu’r strydoedd ac yn arwain am y mynyddoedd. Mae’r Carneddau yn eistedd tu ôl i Fethesda i’r Dwyrain. Mae’r bryn agosaf sef Moel Faban o fewn cilomedr o Rachub gyda golygfeydd anhygoel o Ynys Môn ac Ynys Seiriol. Am daith fwy anturus mae’n bosib anelu am y chwe copa agosaf sef; Moel Faban, Llefn, Gyrn, Moel Wnion, Drosgl a Gyrn Wigau. Siwrne o ddeutu 6 milltir (10 cilomedr) yn cychwyn ar ddiwedd Ffordd y Mynydd, Rachub. Uchafbwynt yw gweld ceffylau’r Carneddau wedi eu dotio ar y llethrau.
Ar ochr arall i’r dyffryn mae Moel y Ci. Cymysgedd o lwybrau coedwig, mynydd agored gyda thraciau cul a chudd yn y grug. Bryn bach annibynnol gyda golygfeydd o’r Eifl i’r Gorllewin a chychwyn y Glyderau (Carnedd Filiast ac Elidir Fawr) i’r De Ddwyrain. Mae ‘na gaffi yn Fferm Moelyci sydd yn fonws!
Ewch am antur, ewch i redeg mynydd.
Clwb rhedeg lleol – Rhedwyr Eryri