Teimlo effaith Covid-19

Carwyn
gan Carwyn

Er nad oes yna achosion o’r Coronafeirws wedi eu cadarnhau yng Ngwynedd hyd yma, mae’r clwy yn cael effaith ar ardal Dyffryn Ogwen.

Fel yng ngweddill Cymru, mae gemau pêl-droed a rygbi ar bob lefel wedi eu gohirio am yr wythnosau nesaf yn y lle cyntaf.

Hefyd, o ddydd Llun ymlaen mae Meddygfa’r Hen Orsaf wedi newid trefniadau gweld cleifion. O fore Llun, 16 Mawrth fydd dim posib troi fyny er mwyn gweld meddyg – bydd angen trefnu apwyntiad o flaen llaw.

Mae mwy o fanylion i’w weld ar dudalen Facebook y feddygfa https://www.facebook.com/328840207526416/posts/799909390419493/?d=n

Cymrwch ofal a dilynwch y cyngor iechyd diweddaraf https://icc.gig.cymru/