Taclo twf digartrefedd pobl ifanc

Carwyn
gan Carwyn

Mae disgyblion Ysgol Dyffryn Ogwen wedi bod yn rhan o lansio cynllun newydd sy’n ceisio mynd i’r afael â digartrefedd ymhlith pobl ifanc.

Roedd y gweithdy gyda disgyblion Dyffryn Ogwen yn rhan o brosiect gwerth £40,000 a ariennir gan Wasanaeth Ieuenctid Cyngor Gwynedd, sy’n cael ei redeg gan yr elusen cymorth i’r digartref, GISDA.

Mae’n dilyn cynnydd o 575% mewn achosion o ddigartrefedd dros yr 20 mlynedd diwethaf, gyda llawer o achosion yn cynnwys pobl ifanc rhwng 16 a 25 oed.

Dywedodd Arweinydd Tîm Gisda ar gyfer Prosiectau, Lee Duggan: “Gall unrhyw un fod yn ddigartref oherwydd gwahanol amgylchiadau.

“Mewn sawl achos mae digartrefedd wedi’i ‘guddio’. Mae pobl y syrffio soffas rhwng ffrindiau mewn anobaith wrth chwilio am le i aros dros nos neu am ychydig ddyddiau neu wythnosau. Y math yma o ddigartrefedd yw’r un lleiaf amlwg.

“Y rheswm dros fynd i mewn i ysgolion a grwpiau ieuenctid cymunedol eraill yw addysgu pobl ifanc, eu gwneud yn ymwybodol o bobl ac asiantaethau a all helpu pe byddent byth yn cael eu hunain mewn anhawster.”

Yn ystod y pum mlynedd diwethaf mae GISDA wedi gweithio gyda thros 2,000 o bobl ifanc, gan eu helpu gyda llety, materion ariannol, cymorth iechyd meddwl, a sgiliau bywyd.

Croesawodd gweithiwr ieuenctid Dyffryn Ogwen Ffion Williams y cwrs Gisda i’r ysgol.

Meddai: “Mae’r ffigurau’n siarad drostyn nhw eu hunain, fedrwn ni ddim caniatáu i’r sefyllfa hon barhau. Ond os gallwn godi ymwybyddiaeth o’r broblem a’r achosion sylfaenol, yna mae gennym siawns i wrthdroi’r duedd.

“I lawer o bobl ifanc gall fod yn demtasiwn enfawr i adael eu teulu, mynd oddi yno a cheisio gwneud bywyd iddyn nhw eu hunain ar oed ifanc. Ond gall gwneud hynny yn ymarferol ddod yn sioc i’r system.

“Dydan ni ddim am ddychryn pobl ifanc na thaflu dŵr oer ar geisio cyflawni eu breuddwydion, ond rydym am eu harfogi efo’r holl ffeithiau perthnasol a’u paratoi i wynebu unrhyw broblemau y maen nhw’n dod ar eu traws.”

Dywedodd Bethan Angharad Williams sy’n cydlynu rhwng GISDA a gweithwyr ieuenctid fel Ffion, ei bod yn falch o gynnal eu gweithdy cyntaf mewn ysgol: “Rydym wedi cynnal cyrsiau llwyddiannus eraill mewn grwpiau cymunedol a chlybiau ieuenctid ond dyma’r ymweliad ysgol cyntaf.

“Mae estyn allan i’r grŵp oedran Blwyddyn 11 yn hollbwysig oherwydd nhw yw’r rhai a all helpu i ledaenu’r neges ymhlith eu cyfoedion.”

Roedd y disgyblion Sophie Jeffreys a Jessica Davies o Ysgol Dyffryn Ogwen, ill dwy yn teimlo bod y gweithdy’n fuddiol.

“Yn sicr, mae wedi fy helpu i sylweddoli bod yna sefydliadau i droi atyn nhw os ydw i neu fy ffrindiau angen help. Rwy’n fwy ymwybodol rŵan o lefydd a phobl i fynd atyn nhw, “ meddai Sophie.

Ychwanegodd Jessica: “Mae wedi bod yn agoriad llygad, yn rhoi gwybod i ni am grwpiau cymorth, gwahanol fathau o ddigartrefedd mewn cymunedau a’r ffaith nad dim ond y syniad arferol o bobl sy’n ceisio goroesi mewn blwch cardbord ar y stryd ydi o.”

Meddai ei chyd-ddisgybl Leon Wild: “Roedd yn ddiddorol dysgu am enwogion oedd wedi bod yn ddigartref, fel sylfaenydd Apple Steve Jobs, y canwr Ed Sheeran a’r actores Jennifer Lopez. Nid yw digartrefedd yn rhywbeth y gallwch chi ei stereoteipio. Mae’n gallu effeithio ar unrhyw un.”

Am fwy o wybodaeth am y prosiect neu weithdai am ddim cysylltwch â Steffan Williams ar 01286671153, neu ewch i: www.gisda.org/