Swpar chwaral!

Chwilio am fwyd da wedi’i ddanfon i’ch drws?

gan Huw Davies

Menter ddiweddaraf Partneriaeth Ogwen a lansiodd wythnos yma yw’r cynllun Cyfaill Cymunedol.

Mewn cyd-weithrediad gyda Chaffi Coed y Brenin mae tîm Dyffryn Gwyrdd wedi dechrau danfon bwydydd poeth, maethlon a blasus Karen a’r criw i gartrefi pobl hyn y dyffryn.

Onid, gwasanaeth danfon cinio’n unig ydyw – mae’r elfen ‘cyfaill’ yn y prosiect yn golygu fod y swyddog sy’n danfon y pryd hefyd ar gael i gael sgwrs gyda’r cwsmer a chynnig cymorth a chefnogaeth ar sawl pwnc – gwresogi ac ynysu, gwybodaeth am faterion amgylcheddol a hefyd cyfeirio ymlaen at asiantaethau statudol.

Nododd Huw Davies, Rheolwr Dyffryn Gwyrdd: “Mae’r cynllun yma rydan ni wedi datblygu ar y cyd a Chyngor Gwynedd yn golygu bo ni’n danfon prydau blasus i bobl sydd, efallai ar ben eu hunain drwy’r dydd ac yn falch o weld wyneb cyfeillgar yn danfon ffidan flasus – chewch chi’m gwell na bwyd cartref a phwdin reis yn goron ar y cwbl!”

Mae’r cynllun yn awyddus i fod mor wyrdd â phosib ac i’r perwyl hynny mae’r cynllun yn defnyddio pecynnu sy’n cael ei gasglu ar gyfer ail-ddefnyddio ac ailgylchu a maes o law bydd y bwydydd yn cael eu danfon yng ngherbyd trydan newydd Dyffryn Gwyrdd. Mae honno’n stori arall, mwy i ddilyn…

Mae’r gwasanaeth yn rhedeg bob dydd Iau ar hyn o bryd ac mae’n hawdd iawn archebu. Gosodwch eich archeb erbyn diwedd y dydd ar ddydd Mawrth a bydd Elen neu un o giang y Bartneriaeth yn ei ddanfon atoch ar ddydd Iau. Mae un cwrs yn £5 neu brif gwrs a phwdin am £6.

I ddysgu mwy am y prosiect neu i ddefnyddio’r gwasanaeth cysylltwch â ni: – angharad@ogwen.org 07396673768 eu Facebook – Partneriaeth Ogwen.