gan
Carwyn
Mae tywydd garw wedi taro Dyffryn Ogwen fel gweddill Cymru, gyda gwyntoedd cryfion a glaw trwm.
Mae’r awdurdodau yn annog pobl i beidio teithio oni bai bod rhaid. I’r rheini sydd yn teithio, mae cyngor i gymryd gofal ac i ddilyn y rhybuddion ffordd.
Mae Heddlu Gogledd Cymru wedi adrodd fod yr A5 ar gau i gyfeiriad Llyn Ogwen oherwydd tirlithriad.
Dyma neges ar gyfrif Twitter yr Heddlu yn annog modurwyr i beidio teithio i gyfeiriad Llyn Ogwen ar hyd yr A5 o Fethesda https://twitter.com/heddlugogcymru/status/1226458487737196545?s=21
Os ydych yn teithio, cofiwch wirio eich siwrne cyn cychwyn rhag ofn fod ffyrdd ar gau. Cymrwch bwyll!