Mewn blwyddyn lle mae golygon cymaint ohonom wedi troi at ein milltir sgwâr, rydym wedi gweld cynnydd anhygoel yn y defnydd o’r gwefannau bro. Mae’r 7 gwasanaeth lleol-iawn wedi bod yn ffynhonnell amhrisiadwy o straeon, gwybodaeth a difyrrwch i gymaint o bobol eleni. Maent hefyd wedi bod yn gofnod o sut fu bywyd pobol a’n cymunedau yn ystod un o’r blynyddoedd mwyaf rhyfedd mewn cof.
Er gwaetha’r Covid – y canslo a’r diffyg dod ynghyd arferol – cyhoeddwyd dros 1230 o straeon bro yn 2020, ac erbyn hyn mae dros 430 o bobol leol wedi cyhoeddi stori ar eu platfform lleol.
I ddathlu hynny, bydd Bro360 yn cynnal seremoni wobrwyo ym mis Ionawr, lle byddwn yn cyhoeddi eich hoff straeon chi ar bob gwefan fro!
Rhestr fer Ogwen360
Dyma’r 6 stori fwyaf poblogaidd (yn ôl yr ystadegau) ar Ogwen360 eleni. Porwch trwyddynt, a phleidleisiwch trwy bwyso’r botwm ’diolch’ ar waelod eich hoff stori.
- Beiciau trydan – ffordd i fod yn hapusach ac yn wyrddach – Tom Simone
Beiciau trydan – ffordd i fod yn hapusach ac yn wyrddach!
- Beicio yn hytrach na chlybio? – Beca Nia
- Rhaid gwarchod enwau lleoedd – Ieuan Wyn
- Sut ‘dyn ni fel myfyrwyr yn teimlo… go iawn – Beca Nia
Sut ‘dyn ni fel myfyrwyr yn teimlo… go iawn..
- Tirwedd ein bro – Ieuan Wyn
- Ymwelydd arbennig nos Lun – Carwyn Meredydd
Felly, dyna’r 6 ddaeth i’r brig o ran yr ystadegau. Ond pa un sy’n dod i’r brig i chi?
Pleidleisiwch, trwy…
- mewngofnodi neu ymuno â’r wefan hon (creu cyfrif)
- mynd i’ch hoff stori
- pwyso’r botwm ’diolch’ ar waelod y stori honno (neu hoffi’r fideo Facebook os dyna eich dewis)
Bydd eich hoff stori ar Ogwen360 yn cael ei chyhoeddi mewn seremoni wobrwyo arbennig ddiwedd mis Ionawr.