Sesiwn Ynni gyda Ysgol Rhiwlas

Disgyblion ysgol Rhiwlas yn dysgu am waith Cyd Ynni.

gan Huw Davies

Pleser o’r mwyaf oedd cael cynnal ymweliad ar ynni adnewyddadwy gyda disgyblion brwdfrydig Ysgol Rhiwlas wythnos yma.

Mae Cyd Ynni yn gorff sy’n cyd-lynu gwaith grwpiau ynni cymunedol yng Ngwynedd – Ynni Anafon, Ynni Ogwen, Ynni Padarn Peris, Moelyci ac Egni Mynydd.

Cefais y cyfle’i drafod creu ynni glan gyda’r disgyblion a hefyd i drafod sut ‘rydym yn arbed ynni – llawer iawn haws a llai o ol-troed carbon na mynd ati i’w greu o’r newydd! Ein gobaith yw bod y plant wedi mynd adre’i holi’u rhieni a theuluoedd am eu defnydd ynni a gweithio ar sut i leihau hynny.

Diolch yn fawr i’r disgyblion, y ddau Mr Davies ac Anti Yvonne am y croeso.

Huw Davies, Swyddog Datblygu Cyd Ynni.