Rhyddhad i Ceri-Ellen: Y Nadolig heb ei ganslo wedi’r cyfan

“Do’n ni ddim yn meddwl fysa ni’n cael mynd adref dros y Nadolig o’ gwbl.”

Gohebydd Golwg360
gan Ohebydd Golwg360

Mae Ceri-Ellen o Fethesda wedi sôn wrth Ogwen360 am ei rhyddhad yn sgil cynlluniau Llywodraeth Cymru i alluogi i fyfyrwyr dreulio’r Nadolig a’u teuluoedd.

Cadarnhaodd Kirsty Williams, Ysgrifennydd Addysg Cymru, y bwriad i ddarparu profion i fyfyriwr, sy’n dymuno dychwelyd adref am y Nadolig.

Ar ôl cychwyn digon dyrys i’w blwyddyn academaidd, cafodd y newyddion ei groesawu gan fyfyrwyr fel Ceri-Ellen, sydd heb weld eu teuluoedd ers sawl mis bellach.

“Roeddwn i wir yn poeni am y peth”

“Dwi’n meddwl bod o’n syniad da iawn,” meddai Ceri-Ellen, sy’n astudio cwrs perfformio ym Mhrifysgol Glyndŵr, Wrecsam.

“Roeddwn i wir yn poeni am y peth ac i fod yn onest do’n ni ddim yn meddwl fysa ni’n cael mynd adref dros y Nadolig o’ gwbl.”

Hwn fydd y cyfle cyntaf iddi gael dychwelyd adref i Fethesda, ers sawl mis.

“Mae o ddigon anodd fel ma’i rŵan,” meddai, “peidio cael gweld fy nheulu ers naw wythnos.”

“Ond mi fysa peidio treulio’r Nadolig adref wedi bod yn anodd iawn i mi a dwi methu disgwyl i gael gwario pob munud o’r amser hefo nhw.”

Edrych ar yr ochr orau

Wrth drafod ei phrofiadau o dreulio’r misoedd diwethaf ar wahân i’w theulu, dywedodd Ceri-Ellen:

“Mae o wedi bod yn anodd,” meddai, “ond mae ‘na grŵp mawr ohono ni’n byw hefo’n gilydd.”

“Dwi dal yn gallu mynd mewn i’r Brifysgol, gan bo fi’n perfformio felly dwi’n cael digon o gyswllt… o bellter wrth gwrs!”

“Mae’r Brifysgol wedi bod yn ofnadwy o dda ac maen nhw hefo llefydd i ni fynd i siarad a iddyn nhw gefnogi ni.”

“Dwi’n edrych ymlaen at gael bod hefo fy nheulu dros y ‘dolig,” meddai, “cael eistedd i lawr a chael chat, sgwrs fach a jyst gwneud y mwyaf o’r pethau syml.”

Mae modd darllen mwy o ymatebion fan hyn.