Os ydych chi wedi bod draw i Barc Meurig yn ddiweddar, fe fyddwch yn gwybod fod yna wyriad bychan i’r llwybr.
Daw hyn wedi i goeden dderw gwympo yn ystod storm ddiweddar. Mae Cyngor Gwynedd yn credu fod y goeden o leiaf 200 mlynedd oed.
Mae’n debyg fod diffygion wedi eu canfod ar y goeden yn dilyn stormydd ddechrau’r flwyddyn ac fe’i monitrwyd dros yr haf. Gwelwyd bod y goeden wedi ei heintio gan ffwng “honey fungus” a doedd dim modd ei hachub, a phenderfynwyd ei thorri cyn y gaeaf.
Ond gyda gwyntoedd anarferol o gryf yn, fe ddisgynnodd y goeden ac achosi peth difrod i’r llwybr.
Mae trefniadau i’w chlirio yn fuan os bydd a bydd gwaith i drwsio’r llwybr yn digwydd cyn gynted â phosib yn ôl Cyngor Gwynedd.
Dywed yr awdurdod hefyd fod nifer o goed derw o’r un oedran a maint gerllaw a bydd y rhain yn cael eu harchwilio’n fuan.