Rhaglen o gigiau mawr yn dod i Neuadd Ogwen

Edrychiad ar gig I Fight Lions a Candelas a’r gigiau arall i ddod

Dafydd Herbert-Pritchard
gan Dafydd Herbert-Pritchard

Os ewch i www.stafellfyw.cymru fe welwch fod gig arall yn dod i Neuadd Ogwen am 7:30yh ar nos Fercher, 14eg o Hydref. Fel trigolyn o Fethesda, mae bron yn syndod fod y sîn yn dewis Neuadd Ogwen eto fel cyrchfan i gig fel hyn, ac mae hyn wedi fy ysgogi i hel rhagor o wybodaeth. 

Sgwrsiais gyda Dilwyn Llwyd, o’r neuadd am y ffrwd newydd o gigiau, ac mae yna lawer mwy i ddod na beth roeddwn i’n disgwyl.

Yn gyntaf soniais am pam Neuadd Ogwen, a nid canolfan arall fel Pontio, Galeri neu Clwb Ifor Bach oedd yn cynnal gigiau ffrwd mawr fel rhain. Yn syml, mae’r Neuadd yn cydweithio gyda arbenigwr sain a rheolwr o’r enw Aled Ifan, sydd â llawer o brofiad ar draws yr byd gyda bandiau. Gyda’i gilydd, mae’r ddau wedi gweithio gyda Lŵp ac S4C i gael 5 gig ffrydio ac ychydig o fideos yn dilyn gwyl Ara-Deg 19.

Ie, 5 gig. Pob un ym Methesda. Pam I Fight Lions a Candelas ofynnais nesaf. Creda Dilwyn fod Candelas yn “fand soled adnabyddus Cymraeg” i ddechrau’r gyfres. Mae “I Fight Lions yn ysgrifennu caneuon ysbrydoliedig iawn gyda ansawdd recordio proffesiynol go gryf” sy’n rywbeth allai gytuno’n frwd wedi gwrando ar yr albwm Beth Sy’n Wir sawl

gwaith.

 

Ar ôl cael camolaeth mawr ar ol gig Lewys, y gig “arbrawf” gyda S4C, mae hyd yn oed mwy o gigs ar y gweill. Nid oes bil penodol o artistiaid wedi ei gadarnhau, ond y bwriad yw cael gig i bawb. Un roc i dechrau, a wedyn efallai un “indie, gwerin” a phwy a wyr be ddaw ar ol hynny.

Mae hyn yn gyfres gwerth chweil o gigiau i’r ardal, ac yn dilyn Ara Deg flwyddyn dwetha’, mae’n gam arall yn enw da Bethesda fel hwb gerddorol unwaith eto. Fel miloedd ar draws Gymru a’r byd, byddaf yn mwynhau pob eiliad drwy’r sgrîn.

Er mwyn cael mynediad i’r gig, mae angen mynd ar y wefan www.stafellfyw.cymru a pwyso’r botwm RVSP a cewch fwy o gyfarwyddiadau i ddilyn.