Te Prynhawn Nadolig

Te prynhawn Nadolig cyntaf yng Nghlwb Rygbi Bethesda

Lois Nottingham
gan Lois Nottingham

Cafodd te prynhawn Nadolig cyntaf clwb rygbi Bethesda ei gynnal heddiw. Daeth nifer o’r trigolion lleol draw i gefnogi a chael llond bol o fwyd! Roedd llu o frechdanau, cacennau a thrîts Nadoligaidd ar gael.

 

Rydym yn meddwl cynnal un arall yn fuan os oes digon o ddiddordeb. 

 

Diolch i bawb am ddod draw a gobeithio eich bod wedi mwynhau!