Er fod peth amser tan y Nadolig, mae’r anrheg perffaith i lenwi hosan ar gael yn eich siopau lleol bellach.
Mae Calendr Llais Ogwan 2021 ar gael i chi ei brynu fel yr eglura Gareth Llwyd, Ysgrifennydd y Llais:
“Mae’n bleser dweud ein bod wedi cyhoeddi Calendr Llais Ogwan 2021 er gwaethaf yr anawsterau oherwydd Covid-19. Mae’n cynnwys lluniau lliw hardd o ardal Dyffryn Ogwen gan gyfranwyr lleol unwaith eto eleni.
“Fe hoffwn ddiolch eto eleni am gymorth gan Glwb Camera Dyffryn Ogwen i ddenu a dewis y lluniau ar gyfer y Calendr a diolchwn hefyd i Richard Alwyn Jones a Gwasg Ffrancon am eu gwaith wrth gysodi ac argraffu’r Calendr.
“Mae’r Calendr yn nodi dyddiadau arbennig ar gyfer gwyliau a gweithgareddau lleol a chenedlaethol ac yn cynnwys amrywiaeth o luniau arbennig o olygfeydd o amgylch Dyffryn Ogwen.”
Gyda’r cyfnod clo byr wedi ei gyflwyno tan ddydd Llun, 9 Tachwedd bydd rhai siopau ar gau am y tro, ond bydd digon o amser i brynu eich copi o’r calendr. Mae’r calendr ar werth yn bennaf trwy siopau’r ardal a hynny am £4. Bargen!
Bydd Calendr Llais Ogwan 2021 ar werth yn:
Siop Ogwen, Bethesda, a thrwy archeb gyda Cadwyn Ogwen
Londis, Bethesda
Barbwr Ogwen, Stryd Fawr, Bethesda
Caffi Coed Y Brenin, Rhes Buddug, Bethesda
Post Rachub
Caffi Moelyci
Llys Y Gwynt (Siop SPAR)
Siop Na-nog, Y Maes, Caernarfon
Awen Menai, Porthaethwy
Cofiwch rannu’r neges gyda’ch teulu a ffrindiau i gefnogi Llais Ogwan!