Pobl Dyffryn Ogwen yn serennu ar raglen deledu newydd

Carwyn
gan Carwyn

Mae rhaglen deledu newydd sbon ar S4C fydd yn taro golwg ar rai o gymeriadau yr ardal.

Bydd Bethesda: Pobol y Chwarel sy’n dechrau ar nos Iau yn dathlu pobl yr ardal, ac yn clustfeinio beth sy’n digwydd yn eu bywydau bob dydd.

Ma bobl Bethesda’n bobl dda. Plaen eu tafod, ti’n gwbod – deud be’ sy’ ar eu meddylia’ nhw, ond maen nhw’n onast iawn ac yn gymwynasgar. Bobl dda ofnadwy,” meddai Meleri Davies, Prif Swyddog Partneriaeth Ogwen, mudiad sy’n cael ei ariannu i greu bwrlwm cymunedol yn yr ardal.

Yn y rhaglen gyntaf, byddwn yn cwrdd â thri chymeriad lliwgar; Nicola Williams, Gwil Baxter Griffiths a Fred Buckley.

Mae Nicola Williams yn gweithio yn siop trin gwallt Copa yn y pentref ac wrth ei bodd yn sgwrsio gyda’i chwsmeriaid. Mae i Fethesda le arbennig yn ei chalon:
Be sy’n tynnu fi at Bethesda ydi fy nghalon i – lle dwi ‘di cael fy nwyn i fyny, lle dwi ‘di bod trwy lot yn fy mywyd. Home is where the heart is fel mae’n nhw’n ‘i ddeud” meddai.

Mae hi’n trafod yn onest am ei phrofiad o ganfod bod ganddi gancr y fron ychydig flynyddoedd yn ôl, ac iddi fedru goresgyn y salwch.

Mae William John Gruffydd, neu Gwil ‘Baxter’ Griffiths fel mae’n cael ei adnabod yn gweithio gyda’i fab-yng-nghyfraith, Willy Bun, yn gyrru tacsi yn yr ardal ers 1979. Fe’i ganed yn Bethesda, yn un o naw o blant mewn tŷ dwy ystafell wely.

Weithies i am 20 mlynedd yn y chwarel cyn cychwyn ar y tacsi. O’n i’n gweithio fanno o’r ysgol yn hollti a naddu a pleru, sy’n joban reit ddiddorol ond bod o’n rhoi llwch ar y chest” meddai.

Ganed Ffred Buckley, sydd bellach yn ymgymerwr angladdau, yn Nhregarth ym 1934, a bu’n gweithio yn y chwarel am 47 mlynedd ar ôl dechrau yno’n 15 mlwydd oed. Yr adeg honno, ym 1949, roedd dros 3,000 o staff, a phob Galeri’n cael ei weithio:

’Oddach chi’n y cytia lawr yn y Galeri; os oedd hi’n bwrw, doeddech chi’m yn gweithio, a ‘sa chi’m yn cael tâl amdano fo. Ella bo chi’n y cwt am ddau ddiwrnod. Wedyn yng nghanol y cwt ‘o’dd ‘na stôf fawr a tân glo yn berwi’r dŵr.

“O’dd ‘na Lywydd ar bob cwt wedyn o’dd raid i chi fynd at y Llywydd i ofyn lle oeddach chi’n cael ista’. O’dd na drefn yna. Toeddach chi’m yn cael ista’ yn lle fynnoch chi, a wedyn o’dd ‘na ryw ganu a tynnu coes – lot o ryw bethau felly.

Mae Bethesda: Pobol y Chwarel yn cychwyn ar nos Iau, 19 Mawrth am 9pm ar S4C.

Bydd y rhaglen ar gael ar alw ar ôl ei darlledu ar y teledu: S4C Clic; BBC iPlayer a llwyfannau eraill. Mae’r gyfres wedi ei chynhyrchu gan gwmni Boom Cymru ar gyfer S4C.