Plannu 100 o Goed Derw

Fel rhan o brosiect Dyffryn Gwyrdd a’i hariennir gan y Loteri Genedlaethol.  

Lisa Tomos
gan Lisa Tomos

Mae Dyffryn Gwyrdd yn brosiect wedi’i leoli yn Nyffryn Ogwen sy’n canolbwyntio ar gynaliadwyedd a’r amgylchedd, wrth fynd i’r afael â lles meddyliol, gwahanol fathau o dlodi, ac arwahanrwydd gwledig.

 

Mae’r gweithgareddau mwyaf diweddar yn dilyn rhodd o gant o goed derw yn ychwanegol i goed ffrwythau. Mae digwyddiadau plannu yn gyfle i’n cymuned ddod at ei gilydd i ddysgu sgiliau newydd ac i gryfhau’r amgylchedd lleol. Mae plannu coed yn rhoi cynefin i adar ac anifeiliaid, amsugno carbon deuocsid o’r atmosffer, ac yn rheoli lefel y dŵr ar dir all fod yn wlyb.

 

Cysylltwch â judith@ogwen.org os oes gennych ddiddordeb cymryd rhan yn y digwyddiad plannu coed nesaf!