Pennaeth newydd yn Abercaseg a Phen-y-bryn

Carwyn
gan Carwyn

Mr Thomas a Modlan y ci

Nid yn aml mae pennaeth yn cychwyn cyfnod yn arwain ysgol pan nad ydi’r mwyafrif o’r disgyblion yn y dysgu yn eu dosbarthiadau. Ond oherwydd y ffaith fod ysgolion ar gau i bob pwrpas ar hyn o bryd oherwydd argyfwng Coronafeirws, dyna’r sefyllfa i Gethin Thomas, pennaeth newydd Ysgol Pen-y-bryn ac Abercaseg ym Methesda.

Er yr amgylchiadau anghyffredin, mae’r pennaeth newydd wedi gosod ei stamp ers dechrau tymor y Haf, ac wedi cysylltu gyda theuluoedd i gyflwyno ei hun.

“Yn amlwg, cadw’n iach a diogel yw ein blaenoriaeth ni fel ysgol ar hyn o bryd,” meddai.

“Er i bobl sôn am yr adeg pan ddown ni’n ‘ôl i drefn’, dydw i ddim yn rhagweld ni’n dychwelyd i’r ‘un’ drefn ag oeddem cyn y cyfnod Covid-19. Bydd rhaid i ni wynebu heriau newydd, heriau anghyfarwydd i ni ar hyn o bryd.

“Bydd lles ein disgyblion, ni fel staff a rhieni yn cymryd ein holl egni. Bydd rhaid i ni gefnogi ein gilydd, bod yn glust i’n gilydd, rhoi trefniadau a rhaglenni mewn lle sy’n rhoi lles a iechyd meddwl y plant a’r staff uwchlaw popeth arall.”

Mae Mr Thomas yn ymuno â ni yn Nyffryn Ogwen wedi cyfnod yn bennaeth ar Ysgol Pentreuchaf. Mae’n byw yn ardal Llandwrog efo’i wraig Nia a dau o blant – Dafydd ac Ela – heb anghofio Modlan y ci!

Mr Thomas a Modlan y ci

Cymreictod

Meddai: “Rydw i eisiau Ysgol Pen-y-bryn ac Abercaseg fod yn ysgol liwgar a modern sy’n parchu ei hanes a’i diwylliant, ond sydd yn symud ymlaen yn bwyllog ond penderfynol tuag at ragoriaeth, i baratoi’r disgyblion ar gyfer eu dyfodol fel dinasyddion.”

Mae Mr Thomas am weld pob disgybl yn datblygu hyd eithaf eu gallu gan feithrin agweddau a rhannu profiadau fydd yn gosod sylfaen gadarn i’w bywydau. Gwneir hyn drwy ennyn balchder yn eu Cymreictod a theyrngarwch tuag at gymuned ac etifeddiaeth.

“Mae pob disgybl cyfwerth â’i gilydd ond dwi’n derbyn hefyd bod plant yn wahanol i’w gilydd a chanddynt yr hawl i lwyddo mewn gwahanol ffyrdd,” meddai.

“Parchaf bob disgybl o bob rhyw, lliw a chred a cheisiwn ddysgu’r plant i ddatblygu drwy barchu cred a diwylliant pobl eraill yn seiliedig ar eu parch tuag at y ddwy iaith a diwylliant eu hunain.

“Rydw i eisiau i blant i adael Ysgol Pen-y-bryn ac Abercaseg yn ddisgyblion hyderus, sydd â sgiliau trafod da a hygrededd personol, a chariad tuag at addysg ac yn abl i wynebu sialens. 

“Rhaid i’r cwricwlwm newydd fod yn eu hysgogi, fod yn aml-synhwyrol, gan osod lles ein disgyblion yn uchel ar yr agenda a rhaid i’r addysgu fod wedi ei gynllunio fel bod y plant yn weithredol yn y broses o ddysgu yn hytrach nag derbyn popeth ar blât. Rydw i eisiau’r cwricwlwm fod yn un eang ac yn llawn diddordeb a phrofiadau i’r plant, ac yn un a wnaiff roi cyfle iddynt ddatblygu i’w llawn botensial.”

Teuluoedd

Mae am weld y disgyblion yn cymryd rhan amlwg yn y broses o redeg yr ysgol o ddydd i ddydd ac mae hefyd yn awyddus i staff deimlo y gallent ddangos blaengaredd, a chymryd risgiau proffesiynol yn ei haddysgu. Ond mae hefyd yn tanlinellu pwysigrwydd y berthynas gyda theuluoedd.

Meddai Mr Thomas: “Mae’r ysgol a’r cartref yn bartneriaeth. Dylai rhieni a gwarcheidwaid fod yn falch o’r ysgol, a pharchaf hwy fel addysgwyr cyntaf ein plant. 

“Credaf y dylai’r ysgol roi’r cyfle iddynt ddeall a bod yn rhan o’r broses addysgu er mwyn iddynt fedru helpu eu plant tu allan i’r ysgol.  Dylent fod yn teimlo’n abl i ofyn cwestiynau a gwneud awgrymiadau ynglŷn â bywyd yr ysgol.

“Rydw i’n gallu gweld un ysgol  ar ddau safle, sydd ag ymdeimlad o’i hunaniaeth ei hun – ysgol sydd ag addysg o’r radd uchaf mewn awyrgylch hapus a phwrpasol. Dylai fod pob plentyn yn gallu edrych yn ôl ar eu dyddiau ysgol fel sylfaen gref a llwyfan gadarn i weddill eu bywyd.”

Pob lwc i Mr Thomas a gweddill yr ysgol a gobeithio y bydd disgyblion yn gallu dychwelyd yn fuan – ond hynny pan fydd hi’n saff i bawb wneud hynny.