Peintio Neuadd Rhiwlas

Carwyn
gan Carwyn
Neuadd Rhiwlas

Oes gennych chi rywfaint o amser i sbario ac awydd gwneud cyfraniad yn lleol?

Os felly, mi allai Neuadd Bentref Rhiwlas elwa o’ch bôn braich!

Mae’r paent wedi cyrraedd, y sgaffold ar gyrraedd gyfer y neuadd fawr a’r hyn sydd angen rwan ydi pobl i baentio!

Mi fydd y gwaith yn dechrau 9yb dydd Sadwrn yma, oes ganddoch chi awran neu ddwy i sbario dros y dyddiau nesaf?
Jesd dowch draw, a mi ffeindia ni rhywle i chi beintio!

Fe fydd te,coffi a biscedi ar gael wrth rheswm !