Neges ewyllys da ar gyfer 2021 – ewch amdani

Sialens i’r plant dros y gwyliau

Carwyn
gan Carwyn

Gwynt teg ar ôl 2020 medda pawb ac er mwyn edrych i’r dyfodol gyda gobaith o’r newydd mae Menter Iaith Bangor yn gosod her arbennig i blant ysgolion cynradd Dyffryn Ogwen a Bangor.

Y nod ydi ceisio anghofio am y flwyddyn aeth heibio a’r clo mawr ac edrych i ddyfodol mwy gobeithiol a chadarnhaol. Felly dyma gyfle i fod yn rhan o gystadleuaeth arbennig a meddwl yn greadigol am neges ewyllys da ar gyfer 2021.

Gall y neges fod ar ffurf llun, poster neu ddyluniad digidol ond gyda phwyslais ar obaith, caredigrwydd, brawdgarwch, undod a chariad. Felly ewch amdani.

Ond does dim brys cofiwch. Mae gan bob cystadleuydd hyd at ddydd Gwener, 15 Ionawr 2021 i greu neges ac anfon llun ohoni at y Fenter Iaith.

“Gyda 2021 ar y ffordd, pwy well i gynnig negeseuon ewyllys da a gobaith i’n hysbrydoli ni i gyd na’r genhedlaeth nesaf sef y plant,” meddai Mair Rowlands, Cadeirydd Menter Iaith Bangor.

“Wrth feddwl am y dyfodol, mae popeth yn bosib, ac rydym am weld a darllen beth fydd eich negeseuon ewyllys da chi i bobl y byd. Felly ewch ati gyda’ch doniau dweud i’n symbylu ni.”

Gyda dau gategori i blant gystadlu, un i blant blynyddoedd 3 a 4 a’r ail i blant blynyddoedd 5 a 6, mae gwobr arbennig ar gael i’r 2 enillydd. Yn ogystal â hynny, gyda chefnogaeth Bangor First Bangor yn Gyntaf a chwmni Dafydd Hardy yr Arwerthwyr Tai, caiff y negeseuon ewyllys da llwyddiannus eu harddangos yn gyhoeddus mewn detholiad o ffenestri siopau gwag ar Stryd Fawr dinas Bangor.

Bydd dwy o aelodau Menter Iaith Bangor sef Menna Baines a Nia Roberts yn beirniadu’r gystadleuaeth a chyhoeddir yr enillwyr yn fyw ar dudalen Facebook y Fenter am hanner dydd ar ddydd Gwener, 22 Ionawr 2021.

Am fanylion pellach cysylltwch â neges@menteriaithbangor.cymru