Teg fuasai dweud fod eleni wedi bod yn flwyddyn heriol ymhob ffordd. Mae popeth a ystyriwn fel normalrwydd wedi diflannu ac rydym wedi gorfod ffurfio ffordd newydd o fyw.
Ond, cyhoeddodd y llywodraeth na fydd y Nadolig yn cael ei anghofio eleni a bu’r cyhoeddiad hwn yn rhyddhad arnom ni gyd.
Ers dod i Gaerdydd, rwyf wedi gorfod ffurfio teulu newydd. Rwyf wedi bod i ffwrdd o adref ers 9 wythnos bellach a do, dw i wedi setlo yma ond yn amlwg, roedd y cwestiwn yn tyfu tu mewn – a fyddaf yn cael mynd adref am y Nadolig eleni…?
A sylweddolais fod pawb yn teimlo’r un peth. Mae’r coronafeirws wedi peri’r gofid ynom ni gyd.
Felly penderfynais holi fy nghyd-fyfyrwyr sut maent yn teimlo.. a hynny yw.. go iawn. Rhwydd yw ateb gyda “Da! Diolch.” heb feddwl dwywaith am yr hyn a ofynnwyd i ni. Esgusodi ein hunain rhag bod yn faich ar ysgwyddau neb, neu er mwyn peidio wynebu’r hyn o’m blaenau.
Gofynnais yn gyntaf iddynt ddisgrifio’u tymor cyntaf yn y brifysgol… eu profiadau cymdeithasol ac addysgol.
“Yn amlwg, mae fy nhymor cyntaf wedi bod yn un gwahanol iawn i’r disgwyl, ond dwi wedi mwynhau pob eiliad o ystyried yr amgylchiadau/cyfyngiadau anodd.”
“Wrth gwrs mae e wedi bod yn od – peidio profi’r freshers ‘arferol’”
“Yn bersonol dw i’n hoff o’r system ar-lein! Ond mae’n eithaf siomedig nad ydyn ni’n cael mynd ar y campws yn aml iawn” – Mali Erin Thomas, o Brifysgol Caerdydd yn astudio’r Gyfraith a’r Gymraeg ar y cyd.
“Rwyf wedi cwrdd a nifer o bobl diddorol a gwneud nifer o ffrindiau newydd ar y cwrs.”
“Mae’r addysg wedi bod yn brofiad cwbl wahanol eleni ac mae llai o gyfleoedd i berfformio o flaen cynulleidfaoedd!”
“Serch hynny, mae’r adran gerddoriaeth yn gwneud eu gorau – mae gennym ni Gyngerdd Amser Cinio bob dydd Iau am ddwy awr. Nid yw’n rhywbeth mor siriys a hynny, ond mae’n gyfle i ni arddangos ein doniau o flaen cynulleidfa o ryw fath.” – Luke Rees, o Brifysgol Caerdydd yn astudio Cerddoriaeth
“Llethol oedd y tymor cynta’, ond mae wedi bod yn llawer haws na’r oeddwn yn ddisgwyl iddo fod. Dw i ‘di gwneud ffrindie agos ac wedi teimlo’n gartrefol yn y ddinas” – Llio Gwen, o Brifysgol Caerdydd yn astudio’r Gymraeg
Holais sut oedden nhw’n teimlo dros y sefyllfa gyfredol hefyd, gyda’r telerau newydd o orfod derbyn prawf cyn gallu mynd adref i ddathlu’r ŵyl yn iawn.
“Os dyna’r cyfan sydd rhaid i ni wneud er mwyn diogelu iechyd ein teuluoedd, dwi’n eithaf sicr na fydd problem gan y mwyafrif am hyn.” – Mali
“Dw i’n edrych ymlaen at gael treulio’r ŵyl gyda fy nheulu heb orfod becso’n ormodol am Covid!” – Mali
“Er nad wyf yn hapus gyda’r dyddiad, rwyf dal am gael prawf arall i sicrhau na fyddaf yn trosglwyddo unrhyw beth i fy nheulu am fod fy nhad yn cael ei ystyried fel ‘risg uchel’” – Luke
“Anodd yw hunan-ynysu yn y fflat.. dim ond llofft a gegin sydd gen ti ac anodd yw ceisio rhoi ‘switch off’ yn yr un man ti’n cysgu a gweithio!” – Llio
“Os daw’r canlyniad yn ôl yn negyddol, bydd e’n grêt! A gallaf fynd adref ond mae’n golygu y byddaf yn colli ambell sesiwn wyneb yn wyneb ar y campws a phrin yw’r rheini fel y mae hi!” – Malen Meredydd, o Brifysgol Caerdydd yn astudio’r Gymraeg a Newyddiaduraeth
Gallwn ni gyd gytuno nad yw’r flwyddyn hon wedi bod yn ddelfrydol i neb. Ond gyda goleuni’r addurniadau Nadolig yn llenwi ein strydoedd fis nesaf, dw i’n siŵr y gallwn godi ein calonnau ychydig. Yn enwedig ar ôl y flwyddyn dywyll hon.