Murlyn i Fethesda

Rho dy farn ar ddyluniadau am furlyn newydd ar gyfer yr ardal

Carwyn
gan Carwyn

Mae cynlluniau cyffrous ar y gweill i greu murlyn ar y ffordd i mewn i ganol Bethesda o gyfeiriad Bangor.

Yn dilyn proses tendro diweddar penodwyd yr arlunydd tirluniau, Glyn Price ar gyfer dylunio a chreu’r murlun. Bydd yn cael ei osod ar dalcen adeilad Annie’s Bethesda. Mae Glyn yn artist profiadol gyda cysylltiadau cryf â’r ardal gyda llawer o’i waith yn cael ei ysbrydoli gan y dirwedd. 

Mae’r prosiect yn plethu gyda chais am enwebiad i sicrhau Statws Safle Treftadaeth y Byd i dirwedd Llechi Gogledd Orllewin Cymru sy’n gweithio ar draws cymunedau chwarelyddol Gwynedd er mwyn ceisio grymuso, ail-gysylltu ac adfywio’r cymunedau trwy dreftadaeth.

Mae tri chynllun posib wedi eu dylunio gan Glyn sydd i’w gweld wrth fynedfa Neuadd Ogwen. Ewch draw i gael golwg – ac os oes gennych chi unrhyw sylwadau am y dyluniadau drafft, plîs e-bostiwch: llechi@gwynedd.llyw.cymru erbyn dydd Llun, 9 Tachwedd, 2020. Gofynnir i chi nodi yn glir os mai dyluniad A, B neu C sydd dan sylw.