Ia
Masgiau.
Mae yna lawer o ansicrwydd ynghylch masgiau; ddylen ni eu gwisgo, ydi rhai cartref yn gweithio ac ati. Ond ar ôl bach o ymchwil ar-lein a chyfarfod â grŵp o weithwyr pryderus y GIG, rwyf yn teimlo y dylai pawb fod yn eu gwisgo. Isod mae yna linc i gyfarwyddiadau ar sut i wneud masg eich hun a rhai erthyglau gyda gwybodaeth ar pam y dylen ni eu gwisgo.
Gadewch i ni helpu’r GIG, ein cymunedau a’r cyhoedd yn gyffredinol trwy barhau i ddilyn canllawiau’r llywodraeth ond hefyd trwy addysgu ein hunain a chymryd rhagofalon pellach i leihau lledaeniad y firws. Gadewch i ni gefnogi ein gweithwyr allweddol a gwneud masgiau i’w cynnig iddyn nhw, ffrindiau, teulu, cymdogion ac unrhyw un arall fysa’n gwerthfawrogi un. Gallant hefyd helpu i leddfu pryder ynghylch y firws, os gall pobl weld yn weledol bod eraill yn ei gymryd o ddifrif ac annog y rhai sydd ddim.
Dyma fy neges ar Facebook “Gogledd Cymru XR (Extinction Rebellion) North Wales News and Events”, yn annog pobl i neud masgiau. Mae o’n cynnwys y cyfarwyddiadau a erthyglau gyda mwy o wybodaeth – https://www.facebook.com/422051668596683/posts/684139105721270/?d=n