Llwybr pysgod afon Ogwen – yn “ateb rhad” meddai pysgotwyr lleol

Gwaith gwella yn ddim ond ffordd “o dawelu” cwynion tros gynllun gollwng pysgod.

Gohebydd Golwg360
gan Ohebydd Golwg360
Afon Ogwen

Gwaith gwella yn ddim ond ffordd “o dawelu” cwynion tros gynllun gollwng pysgod

Mae un o swyddogion cymdeithas bysgotwyr afon Ogwen yn dweud  mai “ffordd o gadw’r pysgotwyr yn dawel” yw prosiect diweddara’ Cyfoeth Naturiol Cymru i  greu llwybr i eog i fyny’r afon.

Yn ôl Morgan Jones, Trysorydd Cymdeithas Genweirwyr Ogwen, does dim arwyddion eto o gynnydd mewn pysgod yn sgil gwaith i wella llwybr pysgod ar gored Banc Ogwen,

Roedd pysgotwyr wedi bod yn galw am waith o’r fath ers deng mlynedd, meddai, ond mae’n amau mai ffordd yw hyn o dawelu anfodlonrwydd pysgotwyr dros gynllun sy’n eu gorfodi i roi pysgod yn ôl yn y dŵr.

“Does yna ddim lot o bobol yn licio’r “catch and release scheme” a lot yn cwyno amdano, felly dwi’n meddwl mai ffordd Cyfoeth Naturiol Cymru o’n cadw ni’n dawel ydi o.”

Y cynllun

Mae’r gwaith ar afon Ogwen yn un o nifer o gynlluniau tebyg y mae Cyfoeth Naturiol Cymru wedi eu gorffen yn ddiweddar.

Roedd y gored wedi ei godi yn yr 1930au ac wedi bod yn dirywio’n gyson, meddai’r corff, ac fe fydd y gwaith o’i wella yn golygu bod rhagor o bysgod yn gallu cyrraedd yn uwch yn yr afon.

  • Roedd cynlluniau eraill yn cynnwys gwaith ar: Nant Clwyd, Clwyd
  • Afon Wen, dalgylch Mawddach
  • Afon Tryweryn, Eryri
  • Afon Dwyfor, Eryri

Roedd y gwelliannau’n cynnwys:

  • Atgyweirio llwybrau pysgod
  • Gosod morgloddiau a chodi lefelau i dŵr i’w gwneud yn haws i’r pysgod deithio i fyny’r afon
  • Gwella safleoedd lle mae pysgod yn silio neu ddodwy

Oedi

“Ar ben hynny” meddai, “Mae Ynni Ogwen wedi adeiladu argae arall yn is i lawr sydd yn creu rhwystr arall ac wedi cael ei adeiladu mewn ‘fish resting zone’.”

Mae golwg360 yn aros am ymateb Cyfoeth Naturiol Cymru i’r feirniadaeth.