Llais Ogwan wedi dygymod trwy droi yn ddigidol

Papur bro Dyffryn Ogwen wedi addasu yn sgil cyfyngiadau Covid-19

Gohebydd Golwg360
gan Ohebydd Golwg360

Ar gychwyn y Cyfnod Clo, daeth yn amlwg nad oedd modd i Llais Ogwan, nag unrhyw bapurau bro arall yng Nghymru, weithredu fel yr arfer. Oherwydd hynny, roedd gofyn am greadigrwydd a hyblygrwydd wrth gynllunio, er mwyn cynnal y gwasanaeth gwerthfawr hwn.

Mae Llais Ogwan ymhlith dros 30 o bapurau bro sydd wedi troi at gyhoeddi rhifynnau digidol yn ystod y cyfnod, gan sicrhau bod modd i drigolion y dyffryn dderbyn gwasanaeth di-dor o’r papur drwy gydol y cyfnod ansicr.

“Ers mis Ebrill, mae Llais Ogwan wedi bod ar gael yn ddigidol. Roedd rhaid i’r wasg gau ac felly doedd dim modd cyhoeddi copïau caled,” meddai Gareth Llwyd, Ysgrifennydd y papur.

Covid-19: risg a chyfle i bapurau bro

Er i’r arfer o gyfarfod a thrafod, plygu a dosbarthu ddod i ben, mae’r amgylchiadau wedi ysgogi rhai papurau bro, fel Llais Ogwan, i ymateb yn greadigol i’r her a manteisio ar blatfformau digidol. Bellach, mae Llais Ogwan yn cael ei gyhoeddi’n ddigidol ar wefan fro Ogwen360 – ochr yn ochr â straeon amlgyfrwng gan bobol leol.

Mae Gareth Llwyd yn cydnabod gall y ddarpariaeth ddigidol olygu bod modd i’r papur gyrraedd cynulleidfaoedd ehangach, ond dywed hefyd ei fod yn gofidio ynglŷn â rhai aelodau hŷn cymdeithas, nad ydyn nhw bob amser yn “gyfarwydd â darllen deunydd electronig”.

Edrych i’r dyfodol

“Mi yda ni wedi bod yn ystyried ail gychwyn cyhoeddi copïau caled dros y mis diwethaf ond oherwydd ail don y pandemig, dyda ni ddim yn teimlo bod yr amser yn briodol ar hyn o bryd ac felly am barhau i gyhoeddi rhifynnau digidol, cyn adolygu’r sefyllfa unwaith eto,” meddai Gareth Llwyd.

Er bod rhai papurau bro eraill, megis papur bro Lleu yn Nyffryn Nantlle wedi ailgychwyn cyhoeddi ar brint, mae’r ansicrwydd presennol yn atal Llais Ogwan rhag dilyn.

Gallwch ddarllen rhifyn diweddaraf Llais Ogwan yma.