Tân gwyllt – pethau wedi mynd dros ben llestri?

Angen gwell rheolaeth yn ôl y Cynghorydd Paul Rowlinson, Gerlan 

Carwyn
gan Carwyn

Mae cynnig gyflwynwyd i gyfarfod Cyngor llawn Gwynedd gan gynghorydd sir ardal Gerlan i wella rheolaeth maes tân gwyllt wedi ei gefnogi yn ddi-wrthwynebiad.

Yn ystod y cyfarfod heddiw (3 Rhagfyr 2020) pasiwyd cynnig i bwyso ar Lywodraeth San Steffan i ddeddfu ar uchafswm lefel sŵn mewn tân gwyllt sy’n cael ei werthu i’r cyhoedd er lles anifeiliaid ac unigolion bregus.

Dywedodd y Cynghorydd Paul Rowlinson, sy’n cynrychioli Gerlan ar Gyngor Gwynedd a ddaeth â’r cynnig gerbron y cyngor llawn yng Ngwynedd: “Yn sicr, dwi ddim am fod yn berson sy’n chwalu hwyl pobl, ond dwi’n poeni am yr ofn a’r pryder y gall tân gwyllt ei achosi i anifeiliaid ac i bobl fregus hefyd.

“Gall synau uchel, annisgwyl effeithio ar ein hanifeiliaid anwes, anifeiliaid fferm a bywyd gwyllt ac mae pobl oedrannus, plant sydd ag awtistiaeth a phobl sy’n dioddef o PTSD hefyd yn cael eu heffeithio’n andwyol gan y sŵn.

“Dwi’n falch bod aelodau’r cyngor wedi cefnogi fy nghynnig gan alw ar Lywodraeth Cymru a Llywodraeth San Steffan i reoleiddio tân gwyllt yn well, er enghraifft trwy leihau lefel y sŵn a ganiateir.

“Pasiwyd hefyd bod angen i’r Cyngor adolygu’r mesurau y gellir eu rhoi ar waith, er enghraifft i wneud pobl yn fwy ymwybodol o effaith tân gwyllt ar les anifeiliaid a’r camau y gallant eu cymryd i leihau unrhyw risg.”

Yn ystod y drafodaeth rithiol o Gyngor Gwynedd, amlygwyd pryderon perchnogion anifeiliaid anwes am effaith mae swn tân gwyllt yn ei gael. Barn sy’n cael ei rannu gan Rhian Jones sy’n byw yn Rachub.

Meddai: “Yn anffodus does gen i ddim ci erbyn hyn, bu farw ychydig flynyddoedd yn ôl ond roedd bob amser yn cael ei ddychryn yn arw gan glecian uchel tân gwyllt. Byddai’n boenus i’w wylio, yn cwyno ac yn anadlu’n gyflym a doedd dim modd ei dawelu.

“Dwi bellach yn gofalu am gi fy ffrind ac mae hi’n belen o nerfau yn ystod mis Tachwedd gan fod y synau i’w clywed rhan fwya’r mis. Mae hi’n ysgwyd yn barhaus ac mae’n rhaid iddi fod o dan orchudd. Mae hi hefyd yn anadlu’n gyflym gan ei bod mor bryderus.

“Mae hi’n troi o fod yn gi bach hapus, hyderus i gi bach nerfus iawn iawn. Mae’n boenus i’w gwylio gan nad oes dim yn ei chysuro.

“Dwi ddim am ladd yr hwyl, ond mae’n hurt bod tân gwyllt ar gael i’r cyhoedd mor rhwydd yn enwedig y rhai swnllyd iawn.”

Mae cynghorwyr Gwynedd wedi pleidleisio dros y rhybudd o gynnig – 46 o blaid gyda dau yn ymatal. Yn dilyn y gefnogaeth, bydd yr awdurdod yn ysgrifennu at Lywodraeth Cymru yn gofyn iddi ddefnyddio unrhyw bwerau sydd ganddi i liniaru unrhyw effaith andwyol ar anifeiliaid a phobl fregus a achosir gan arddangosfeydd tân gwyllt.

Bydd gohebiaeth hefyd yn cael ei anfon at Lywodraeth y Deyrnas Gyfunol yn gofyn iddi gyflwyno deddfwriaeth i osod uchafswm lefel sŵn o 90dB ar gyfer tân gwyllt a werthir i’r cyhoedd ar gyfer arddangosfeydd preifat.

Bydd gofyn hefyd i Bwyllgor Craffu Cymunedau Gwynedd ystyried pa gamau y gall y Cyngor eu cymryd i hyrwyddo neu annog:

• fod pob arddangosfa tân gwyllt cyhoeddus o fewn ffiniau’r sir yn cael ei hysbysebu ymlaen llaw, o fewn ei gyffiniau gan roi cyfle i bobl gymryd rhagofalon dros eu hanifeiliaid a phobl sy’n agored i niwed.

• ymgyrch i godi ymwybyddiaeth y cyhoedd o effaith tân gwyllt ar les anifeiliaid a phobl sy’n agored i niwed – gan gynnwys y rhagofalon y gellir eu cymryd i liniaru risgiau

• cyflenwyr lleol tân gwyllt i werthu tân gwyllt llai swnllyd ar gyfer arddangosfeydd cyhoeddus

• pobl i gyfyngu defnyddio tân gwyllt i gyfnod agos at ddyddiadau arbennig.

Wrth gloi, nododd y Cynghorydd Paul Rowlinson sy’n cynrychioli ardal Gerlan yn Nyffryn Ogwen: “Dwi’n falch bod cefnogaeth wedi dod o lawr y cyngor i’r cynnig yma, yn y gobaith y gallwn ddylanwadu er lles trigolion ac anifeiliaid y sir.”

Y Cynghorydd Paul Rowlinson